Pwysau cyfryngau cymdeithasol a chymharu dy hun i bawb rwyt ti’n gweld ar dy ‘ffîd’

Llun ffón hefo negeseuon cyfryngau cymdeithasol

 

Rydym ni gyd yn gallu uniaethu gyda’r teimlad o ddim gwneud ‘digon’ neu’n teimlo fel rydyn ni’n colli mas ar bethau. Yn ôl adroddiad Comparison Culture 2023 a ymchwiliodd mewn i gymhariaeth o ganlyniad i gyfryngau cymdeithasol, mae 90% o bobl ifanc ledled y DU yn anfodlon gyda’u bywydau ac mae 75% o’r genhedlaeth Z eisiau newid eu cyrff. Mae’r canlyniadau yn dangos mai cyfryngau cymdeithasol yw’r prif reswm am y teimladau hyn gan fod digwyddiadau mwyaf arbennig neu ‘highlights’ bywydau pobl ar gael i bawb gweld (sydd gan amlaf yn cynnwys lluniau wedi cael eu golygu er mwyn edrych yn berffaith!). 


Mae’n siŵr rydyn ni gyd wedi cael ein cyfareddu gan dwyll bywydau'r bobl rydyn ni’n gweld ar ein ‘feed’ ar naill ai Instagram neu TikTok, ac felly bydd yr erthygl hon yn trafod pwysau cyfryngau cymdeithasol a sut mae’n achosi pobl i deimlo’n wael amdan eu hunain a chymharu eu hunain i eraill ar-lein. Byddaf hefyd yn cynnig ychydig o gyngor ar beth sydd yn fy helpu i, i leihau cymhariaeth.


Beth yw pwysau cyfryngau cymdeithasol? 
Mae pwysau cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i bobl deimlo fel bod rhaid iddyn nhw fyw neu edrych ffordd benodol o ganlyniad i beth maen nhw’n gweld ar gyfryngau cymdeithasol. Mae’n tueddi wneud i bobl deimlo’n ansicr yn eu hunain a gwneud iddyn nhw gymharu ei hunain gyda phobl eraill sy’n dod ar draws fel petai nhw’n byw'r bywyd delfrydol neu yn edrych yn ‘berffaith’.

 

Enghreifftiau o’r pwysau
Fel arfer, mae ‘trends’ ar gyfryngau cymdeithasol yn achosi llawer o’r pwysau hyn. Dyma rhai esiamplau: 

 

  • Corff neu edrychiad delfrydol 
    Bod hefo sawl cam afrealistig mewn ‘skincare routine’. Mae’n bosib fod y fideos yma ar TikTok yn gwneud i bobl deimlo’n ansicr am eu croen.
    Yn ddiweddar, mae ‘skinnytok’, sy’n niweidiol iawn i bobl ifanc yn feddyliol ac yn ffisegol, wedi dod yn fwy poblogaidd ar TikTok.
     
  • Bod yn llwyddiannus a gwastad yn gynhyrchiol (‘productive’)
    Gall fideos ‘My 6am-9am before my 9-5’ wneud i bobl teimlo bod rhaid iddyn nhw fod yn weithgar trwy'r amser ac yn syth wedi iddyn nhw ddeffro, cyn hyd yn oed cychwyn ar astudio neu waith.
     
  • Teithio i bob man
    Lluniau a fideos sy’n dangos pobl yn teithio’r byd sydd ddim efallai’n bosib i bobl sydd methu fforddio neu gael amser i wneud, sy’n debyg i fod yr achos gyda myfyrwyr.
     
  • Cael dillad drud 
    Teimlo’r pwysau i gael dillad newydd sbon neu’r pwysau i gael y dillad sy’n boblogaidd ar y pryd yn enwedig y rhai mae’r holl ddylanwadwyr yn gwisgo ac yn awgrymu’r gynulleidfa prynu.

 

Yr effaith ar ein hiechyd meddwl 
Er gall y fideos a’r lluniau ysbrydoli ni, mae’n rhaid ystyried sut all hyn fod yn niweidiol, yn enwedig ar gyfer phobl ifanc. Gall cynnwys o’r fath ar gyfryngau cymdeithasol arwain at broblemau meddyliol fel pryder, iselder, anhwylderau bwyta a llawer mwy. Mae’n hollbwysig cymryd saib o’r cynnwys hwn os ydych chi’n poeni am yr effaith mae o’n cael ar eich iechyd meddwl ac i gysylltu gyda’r brifysgol os mae’n cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl.

 

Sut rwy’n medru rheoli’r pwysau

Mae’n bwysig cofio dwyt ti ddim yr unig un sy’n teimlo’r teimladau hyn, mae’n hollol gyffredin. Er mwyn medru rheoli’r pwysau byddaf yn argymell: 

 

  • Dilyn cyfrifon neu gynnwys sy’n rhoi ysbrydoliaeth i ti, yn hytrach na gwneud i ti deimlo’n euog am y pethau rwyt ti’n gwneud neu beidio 
    Mae’r botwm ‘mute’ yn ddefnyddiol ar gyfryngau cymdeithasol ac rwyt ti’n gallu mireinio’r cynnwys i beth hoffet ti weld.
    Osgoi dilyn neu ryngweithio gyda chynnwys sy’n achosi teimladau gwael neu sy’n gwneud i ti gymharu dy hun neu dy fywyd.

 

  • Rhoi amserydd ar gyfryngau cymdeithasol 
    Efallai na fydd ‘app blocker’ yn siwtio pawb ond yn bersonol, mae’n atgoffa fi pan dwi’n sgrolio gormod. Mae’n hawdd iawn i ni sgrolio am oes heb sylwi!
    Mae’n atgoffa ni i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn rydym ni’n gwneud ac yn sicrhau ein bod yn fwy presennol yn y foment er mwyn i ni ddeall fod e’n amser diffodd yr ap 

 

  • ‘Digital-detox’ neu ddiffodd y ffôn am ba mor hir rwyt ti angen 
    Byw yn y presennol a mynd i wneud rhywbeth rwyt ti’n mwynhau gwneud fel mynd am dro yn yr awyr iach, mynd mas gyda ffrindiau, gwneud ymarfer corff neu beth bynnag hoffet ti wneud sydd ddim yn cynnwys mynd ar y ffôn a sgrolio.

    Mae ‘digital-detox’ hefyd yn newid y ffocws fel bod ti yn canolbwyntio arnat ti dy hun a dy fywyd yn hytrach na chymharu ag eraill a byw bywyd trwy’r sgrin.
     

  • Trafod sut rwyt ti’n teimlo gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo neu ysgrifennu sut rwyt ti’n teimlo
    Yn bersonol, rwy’n teimlo’n well ar ôl siarad gyda rhywun am sut rwy’n teimlo neu ar ôl ysgrifennu beth yn union yw’r broblem wrth i mi brosesu, ac yna dod o hyd i ddatrysiad.
    Gall hyn gwneud i ti gael persbectif gwahanol ar dy deimladau neu wneud i ti feddwl yn gliriach wrth i ti brosesu a theimlo’r teimladau yn hytrach na chuddio sut ti’n teimlo.

 

Dyfyniad sydd wedi newid y ffordd rwy’n edrych ar bethau ar gyfryngau cymdeithasol yw’r un gan y Parchedig Steve Furtick:


“The reason we struggle with insecurity is because we compare our behind-the-scenes with everyone else’s highlight reel.”

 

Mae’n hanfodol cadw hwn mewn golwg unrhyw bryd rwyt ti’n gweld y ‘trend’ newydd neu ‘photo dumps’ sydd wedi’u golygu i edrych fel bod y person yn byw'r bywyd gorau. Dydy’r cynnwys hyn ddim yn dangos y realiti o fywyd go iawn y person felly mae’n bwysig ein bod yn osgoi cymharu ein bywydau pan rydyn ni’n teimlo’n isel oherwydd uchafbwyntiau pobl eraill. 


Y tro nesaf rwyt ti’n cymharu dy hun neu’n teimlo’n wael amdanat ti dy hun neu dy fywyd oherwydd cyfryngau cymdeithasol, cofia rwyt ti’n gwneud dy orau a tydi’r cyfryngau ddim yn adlewyrchiad realistig o fywyd pob dydd y mwyafrif o bobl. Rwyt ti’n byw dy fywyd, rwyt ti’n berson unigryw a dwyt ti ddim angen newid dy hun neu dy fywyd er mwyn cyd-fynd gyda’r safonau afresymol mae cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo. 


Rwyt ti’n ddigon fel wyt ti.

 

 

gan Carys Davies

Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth