Dechrau Sgwrs

 

Papyrus logo
                          Darparwyd y wybodaeth isod gan Papyrus 
 

Mae siarad am hunanladdiad yn achub bywydau, ond mae’n gallu bod yn anodd gwybod ble i ddechrau neu sut i helpu. Isod mae yna enghreifftiau o sut i ddechrau sgwrs os ydych yn poeni am rywun. Mae siarad am hunanladdiad yn gallu bod yn ddychrynllyd, anodd neu boenus -ond mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud. Nid oes rhaid i feddyliau hunanladdol arwain at hunanladdiad. Mae meddyliau hunanladdol yn gwneud i lawer o bobl ifanc deimlo’n unig iawn ac nid ydynt yn teimlo eu bod yn gallu dweud wrth unrhyw un. Dengys tystiolaeth nad yw siarad am hunanladdiad yn ei wneud yn fwy tebygol o ddigwydd - mae’n lleihau’r stigma ac mae’n aml yn gam cyntaf at adferiad.

 

Nid yw siarad am hunanladdiad yn golygu ei fod yn fwy tebygol o ddigwydd.

 

Gofynnwch i’r person yn uniongyrchol ‘Wyt ti’n meddwl am hunanladdiad?’ Trwy ddefnyddio’r gair hunanladdiad, rydych yn dweud wrth y person ifanc ei bod yn IAWN i siarad yn agored am eu meddyliau hunanladdol gyda chi.

 

“Weithiau, pan fydd pobl yn teimlo fel rwyt ti’n teimlo, maen nhw’n meddwl am hunanladdiad. Ai dyna beth rwyt ti'n meddwl amdano?"

“Wyt ti’n dweud wrthyf dy fod ti eisiau lladd dy hun? Rhoi diwedd ar dy fywyd? Marw? Marw trwy hunanladdiad?

“Mae’n swnio fel dy fod yn meddwl am hunanladdiad, ydw i’n iawn?” “Mae’n swnio fel bod bywyd yn teimlo’n rhy anodd i chdi ar hyn o bryd a dy fod ti eisiau lladd dy hun, ydw i’n iawn?”

 

Os yw rhywun yn teimlo’n hunanladdol, gwrandewch ar y person a gadewch iddynt fynegi eu teimladau. Efallai bod y person yn teimlo rhyddhad anferthol bod rhywun yn fodlon gwrando ar eu meddyliau tywyllaf.

 

“Mae’n swnio fel bod pethau’n anodd iawn ar hyn o bryd... Fedri di ddweud ychydig mwy wrthyf?

“Mae’n rhaid bod pethau’n boenus iawn os rwyt ti’n teimlo nad oes yna ffordd allan. Rwyf eisiau gwrando a helpu.”

“Cymera dy amser a dweud wrthyf beth sy’n digwydd ar hyn o bryd.”

“Mae’n ddrwg iawn gen i dy fod ti’n teimlo fel hyn. Fedri di ddweud mwy wrthyf am sut rwyt ti’n teimlo?”

“Fedri di ddweud mwy wrthyf am pam wyt ti eisiau marw?

“Beth sydd wedi dy arwain at y lle yma/i deimlo fel hyn?”

“Mae’n anodd ac yn ddychrynllyd i siarad am hunanladdiad ond cymera dy amser ac mi wnâi wrando.”

 

Cysurwch y person a dywedwch wrthynt nad ydynt ar eu pen eu hun ac y gallwch chwilio am gymorth gyda’ch gilydd.

 

“Nid yw’n anghyffredin i feddwl am hunanladdiad. Gyda chymorth a chefnogaeth gall llawer o bobl weithio trwy’r meddyliau hyn ac aros yn ddiogel.”

“Mae yna sefydliadau sy’n cynnig cymorth fel PAPYRUS HOPELineUK. Gallaf dy helpu i ddod o hyd i’w manylion cyswllt.

“Rwyt ti wedi dangos llawer o gryfder wrth drafod hyn gyda mi. Rwyf eisiau dy helpu i ddod o hyd i gymorth.”

“Mae yna obaith. Mae yna gymorth ar gael ac mi wnawn ni ddod o hyd iddo gyda’n gilydd”