Heb gael dy dderbyn i dy ddewis cyntaf o brifysgol? Nid dyma ddiwedd y byd

Person sy'n teimlo'n ddryslyd

 

Mae diwrnod canlyniadau’n gallu dod â llanw o emosiynau. Ar ôl misoedd (neu flynyddoedd hyd yn oed) yn dychmygu dy hun yn dy brifysgol ddelfrydol, gall darganfod nad wyt ti wedi cael lle deimlo fel pe bai’r llawr wedi diflannu danat. Mae’n gallu bod yn sioc, yn siomedig, ac yn eithaf brawychus hefyd. Ond dyma’r gwir: dyw hyn ddim yn ddiwedd ar dy daith, dim ond llwybr gwahanol.


Mae’n iawn i deimlo’n drist. Efallai bod y newyddion yn sioc, neu dy fod yn galaru’r fersiwn honno o’r dyfodol ro’t ti wedi’i ddychmygu. Rho le i ti dy hun i deimlo. Paid â barnu dy emosiynau a gad iddyn nhw fynd a dod. Cofia y gall siarad gyda rhywun sy’n rhoi cymorth fod yn gam pwysig ymlaen. Mae’n iawn cymryd saib cyn penderfynu ar dy gam nesaf.
 

Un opsiwn i’w ystyried yw Clirio (neu ‘Clearing’ yn y Saesneg). I rai, mae sôn am fynd trwy’r broses hon yn gallu teimlo fel methiant, ond nid felly y mae. Mewn gwirionedd, mae Clirio yn gyfle euraidd i ailystyried, ail-archwilio, ac efallai darganfod cwrs neu leoliad newydd fydd yn ffitio’n well. Fe allai fod yn gyfle i astudio rhywbeth gwahanol, derbyn mwy o gefnogaeth, neu ymuno â chymuned sy’n teimlo’n fwy cartrefol. Dwi wedi clywed llawer o fyfyrwyr yn dweud, “Dwi mor falch na chefais i’m dewis cyntaf, roedd y brifysgol yma’n well i mi yn y pendraw.”


Ond wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu ei bod yn hawdd. Mae’r cyfnod rhwng derbyn dy ganlyniadau a sicrhau lle arall yn gallu bod yn straenus iawn. Gall yr ansicrwydd achosi gorbryder, iselder a phryder ynglŷn â’r dyfodol. Dyma’r adeg pan mae’n bwysig gofalu am dy iechyd meddwl. Os yw cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i ti deimlo’n waeth, cymer egwyl. Os wyt ti’n meddwl gormod, siarada gyda rhywun, ffrind, aelod o’r teulu neu wasanaeth cefnogaeth.


Yn aml, mae’r llwybr nad oeddet ti’n ei ddisgwyl yn dod â chyfleoedd newydd sbon. Gall fod yn bobl newydd, profiadau newydd, neu hyd yn oed system cymorth well. Mae’r daith yn dal i fynd rhagddi, ac fe all fod yn un wych.


Felly os wyt ti’n mynd trwy’r broses o Glirio eleni, paid â cholli gobaith. Mae hwn yn dal i fod yn dy stori. Rwyt ti’n haeddu teimlo’n siomedig, ond rwyt ti hefyd yn haeddu symud ymlaen gyda gobaith a hyder. Dyw hyn ddim yn fethiant, mae’n wydnwch. Mae’n ddechrau newydd, ac dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.
 

Angen cymorth?
Mae adnoddau lles ar gael ar myf.cymru, neu wyt ti’n gallu siarad â swyddog lles dy ysgol neu dy goleg.
 

 

gan Chloe Richardson

Myfyriwr Prifysgol Bangor