Teimlo’n unig yn y Brifysgol – dwyt ti ddim ar ben dy hun!

Person trist

 

Yn ôl arolwg 2025 gan Ymchwil Polisi Addysg Uwch (HEPI) roedd teimlo’n unig yn un o’r prif resymau am eisiau gadael y brifysgol. Mae unigrwydd wedi dod yn fwy cyfarwydd ynghylch pobl ifanc, gall tybio o ganlyniad i gyfryngau cymdeithasol, ac felly dydy hi ddim yn annisgwyl bod myfyrwyr yn teimlo’r unigrwydd hwn. Bwriad yr erthygl yw trafod y rhesymau gall myfyrwyr yn y brifysgol teimlo’r unigrwydd yn fwy nag o blaen gan edrych ar y rôl mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae a’r disgwyliadau sydd ar bobl ifanc y dyddiau hyn. Byddaf hefyd yn rhoi bach o gyngor ar bethau bach gallet ti wneud er mwyn teimlo’n llai unig gan hefyd rhannu fy mhrofiad personol.


Mae’n bwysig ystyried y cyd-destun yma oherwydd mae’n newid enfawr, yn enwedig i’r myfyrwyr sy’n gadael adref am y tro cyntaf, ac felly ar bapur dyna beth sy’n achosi’r teimlad o unigrwydd. Ond rwy’n tybio ei bod hi’n waeth y dyddiau hyn oherwydd mae’n bosib mae cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i ni deimlo’n fwy unig oherwydd rydym ni’n teimlo fel petai’n ni’n ‘colli allan’. 


Efallai bydd y rhestr isod yn dy helpu di gydnabod beth sy’n achosi’r teimlad hwn neu efallai mai’n gymysg o nifer o bethau:


• Bod yn bell o dy deulu a dy ffrindiau: Dyma un o’r rhesymau amlwg gall myfyrwyr teimlo’n unig gan fod e’n y tro cyntaf i nifer byw i ffwrdd o gartref ac efallai mai myfyrwyr yn colli’r ‘home comforts’ 


• Angen addasu i iaith, gwlad neu ddiwylliant gwahanol: Mae rhai myfyrwyr yn symud gwlad ar gyfer y brifysgol ac felly mae’n bosib gall myfyrwyr meddwl nad ydyn nhw’n ‘perthyn’ a all hynny arwain at deimlo’n unig. Yn ogystal â hynny, os ydych yn symud o Gymru, mae’n bosib nad wyt yn defnyddio dy famiaith cymaint sy’n cryfhau’r teimlad o unigrwydd 

 
• Cymharu dy fywyd preifat i beth rydych chi’n gweld ar gyfryngau cymdeithasol: Mae’n gyffredin iawn i deimladau o unigrwydd cynyddu ar ôl sgrolio ar gyfryngau cymdeithasol. Gall myfyrwyr cymharu eu bywydau i beth maen nhw’n gweld ar-lein ac yna’n meddwl nad ydyn nhw’n byw'r bywyd myfyriwr ‘delfrydol’ neu ‘berffaith’. Gall myfyrwyr hefyd teimlo fel nad ydyn nhw yn ran o beth maen nhw’n eu gweld. Mae hyn yn achosi teimladau o unigrwydd cymhleth. Maen nhw’n teimlo’n unig oherwydd maen nhw ond yn gweld uchafbwyntiau pobl eraill ond gall teimlo fel petawn nhw’n colli allan ar bethau 


• Cysylltu gydag eraill ar lein: Er bod cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn wych er mwyn cadw mewn cysylltiad gydag eraill, gall hyn hefyd olygu bod myfyrwyr yn treulio gormod o amser ar-lein yn cyfathrebu yn hytrach na chyfathrebu gyda myfyrwyr eraill yn y brifysgol ac felly mae’n anoddach creu cysylltiadau mewn bywyd go iawn 
Pethau sy’n gallu dy helpu dod dros y teimladau o unigrwydd 


• Gwneud yn siŵr dy fod yn agored i gysylltiadau newydd: Herio dy hun i drio gwenu at fyfyrwyr dwyt ti ddim yn adnabod neu gychwyn sgwrs gyda rhywun hoffet ti ddod i adnabod yn fwy 


• Cadw at drefn (routine): mae creu systemau neu strwythur yn dy ddydd yn dy helpu i setlo ac mae’n newid dy ffocws i dy fywyd yn y brifysgol sy’n dy helpu peidio gor-feddwl pethau sy’n arwain at y teimlad o fod yn unig 


• Sefydlu cymdeithas neu ffeindio pobl o feddwl tebyg: Gall hyn edrych fel ymuno â chymdeithasau neu glybiau a dyna’r peth gwych am y brifysgol, mae yna gymuned a chlwb ar gyfer popeth. Yn dweud hynny, os nad ydy hynny’n rhywbeth hoffet ti wneud, paid â theimlo bod rhaid gwneud oherwydd mae’n ‘gyffredin’ yn y brifysgol, ti sy’n penderfynu beth sy’n addas 


• Siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo: Mae’n hollbwysig trafod y teimladau hyn, naill ai gyda dy deulu, ffrindiau adref neu fyfyrwyr eraill. Byddet ti’n teimlo’n well ar ôl mynegi gan sicrhau bod y teimladau ddim yn adeiladu neu’n mynd yn waeth. Gall y bobl sy’n dy nabod orau cynnig cymorth a fydd yn gwneud gwahaniaeth gan eu bod nhw’n dy nabod yn dda iawn 


• Cymryd saib o gyfryngau cymdeithasol: Os cymhariaeth ar gyfryngau cymdeithasol sy’n achosi’r teimladau hyn, bydd hi’n syniad da cydnabod hynny ac efallai ceisio treulio llai o amser yn sgrolio neu atgoffa dy hun mai uchafbwyntiau yw’r rhain, dim yr holl wir

 

Fy mhrofiad personol 
Yn bersonol, roeddwn i’n teimlo’n mor unig i ddechrau yn y brifysgol ac roeddwn i’n teimlo fel yr unig un. Pan roeddwn i gyda fy ffrindiau o’r llety, sydd nawr yn bellach fy ffrindiau gorau, roeddwn i’n teimlo fel petai fi oedd yr unig un oedd yn hiraethu am fod yn agos at fy nheulu neu fod adref ond pan roeddwn i a fy ffrindiau wedi dod yn fwy agos, sylweddolais nid fi oedd yr unig un, roedden ni gyd yn teimlo’r unigrwydd hwn ond doedden ni ddim yn trafod hwn gyda’n gilydd. Felly, byddwn i’n argymell trafod y teimladau hyn gyda myfyrwyr eraill oherwydd mae’n bosib dy fod di’n helpu rhywun rhag siarad amdani. Mae’n hefyd yn helpu creu’r cysylltiadau hyn ac mae’n gryf iawn i gyfaddef sut rwyt ti’n teimlo ac mae’n bosib bydd hynny’n ysbrydoli eraill i rannu sut maen nhw’n teimlo. Dwyt ti ddim ar ben dy hun.

 

Crynhoi 
Felly, i grynhoi, mae’n bwysig nodi bod ‘dwyt ti ddim ar ben dy hun’ yn ddatganiad gwir mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, nad wyt ti ar ben dy hun gyda’r teimladau hyn ond dwyt ti hefyd ddim ar ben dy hun oherwydd mae yna wastad rhywun all helpu, hyd yn oed os nad wyt ti’n teimlo fel does neb yn deall neu ar gael i helpu. Wrth drafod y rhesymau pam mae pobl yn teimlo’n unig, mae’n amlwg bod cyfryngau cymdeithasol yn pwysleisio’r teimladau o unigrwydd ac felly mae’n bwysig nodi pa mor anodd yw bod yn fyfyriwr y dyddiau hyn. Yn dweud hynny, mae technoleg yn wych er mwyn cadw mewn cysylltiad gyda phobl rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw a gall nhw fod o gymorth yn ystod yr adegau hyn. 
Cofia dy fod yn berson cryf ac mae yna wastad help ar gael. Os wyt ti’n teimlo bod unigrwydd yn broblem ddifrifol yn dy fywyd ar hyn o bryd, mae yna wasanaethau ar gael yn y brifysgol a all helpu mewn argyfwng.  


 

gan Carys Davies

Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth