Rheoli disgwyliadau yn y brifysgol

person questioning

Pan fyddwn ni’n gwneud unrhyw beth newydd, peth normal yw dychmygu sut brofiad fydd hi, a bod â gobeithion, ofnau a disgwyliadau. Mae hyn yn wir pan fyddwn yn mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf – ond gall y ffordd y byddwn yn llunio a gosod ein disgwyliadau arwain at lwyddiant neu heriau. 

 

Mae’r gallu i ddychmygu dyfodol sydd heb ddigwydd eto yn sgìl rhyfeddol sydd gennym ni fel bodau dynol. Mae’n ein galluogi i baratoi ar gyfer sefyllfaoedd newydd, nodi problemau posibl, ymbaratoi yn feddyliol ac yn ymarferol, a dod o hyd i unrhyw adnoddau ychwanegol y gallai fod eu hangen arnom. Pan ddefnyddir y sgìl yn dda, gallwn fod yn llawer mwy tebygol o lwyddo. 

 

Fodd bynnag, gall y ffordd y byddwn yn defnyddio ein dychymyg hefyd greu anawsterau i ni, os yw ein disgwyliadau yn rhy gadarn neu afrealistig. 

 

“Mae’r brifysgol yn brofiad anhygoel, ac yn un sydd i mi yn bersonol wedi newid fy mywyd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod pob agwedd o'r profiad yn mynd i fod yn hawdd.” 

 

– Lucy

 

 

Gall fod yn fwy buddiol os yw ein disgwyliadau:

 

Yn fwy hyblyg nag anhyblyg 

Gall gorbryder neu obeithion ofer ein harwain at greu disgwyliadau anhyblyg o’n dyfodol. Efallai y byddwn yn dychmygu un ddelwedd fanwl o sut yn union fydd bywyd prifysgol, faint o ffrindiau y byddwn yn eu gwneud, faint y byddwn ni’n mwynhau ein cwrs ac ati, ond pan nad yw pethau’n troi allan yn union fel y gwnaethon ni eu dychmygu, gallwn gael ein siomi, ein cynhyrfu a’n drysu. Gall hyn ein harwain i amau ein profiad cyfan a’i chael yn anodd ymateb i anawsterau neu gyfleoedd.

 

Mae’n fwy buddiol ceisio cael disgwyliadau hyblyg a dychmygu amrywiaeth o brofiadau – rhai da, drwg ac yn y canol – a chydnabod, beth bynnag a ddychmygwch, na fydd hynny’n cyfateb yn union i’r hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd – a bod hynny’n iawn. Wedi dychmygu ystod o bosibiliadau, byddwch wedi paratoi’n dda ar gyfer beth bynnag a ddaw. 

 

 

Yn gytbwys

Os gwnewch chi dybio bod bywyd prifysgol yn mynd i fod yn ofnadwy, yn straen neu’n anodd, aiff hynny’n fwrn arnoch cyn i chi hyd yn oed ddechrau. O ganlyniad, byddwch eisoes yn teimlo’n flinedig, yn isel, ac yn llai parod i ymdopi. 

 

Rydych hefyd yn gwneud rhywbeth o’r enw ‘preimio’ – rydych chi’n paratoi’ch ymennydd i roi sylw i bethau negyddol ac i anwybyddu pethau cadarnhaol. Felly, yn ystod eich ychydig wythnosau cyntaf yn y brifysgol, dim ond y pethau nad ydych chi’n eu hoffi y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ac yn colli’r pethau hynny sy’n hwyl, yn gyffrous neu’n ddiddorol. 

 

Os gwnewch chi dybio bod popeth yn y brifysgol yn mynd i fod yn wych, byddwch hefyd yn fwy tebygol o sylwi ar y pethau da a manteisio arnynt. Ond pan fyddwch chi’n wynebu heriau, gall hyn eich ansefydlogi yn fwy nag arfer a gwneud i chi amau eich hun neu’ch profiad. 

 

Yn gyffredinol, gall fod yn fuddiol cydnabod y bydd bywyd prifysgol yn cynnwys profiadau da, drwg a niwtral – ond bod â rhywfaint o optimistiaeth, fel eich bod yn fwy tebygol o sylwi ar y pethau da. 

 

 

Yn agored i wybodaeth newydd

Y disgwyliadau mwyaf defnyddiol yw’r rhai a all newid mewn ymateb i wybodaeth newydd. Mae bod yn agored yn golygu ein bod yn fwy tebygol o fod â disgwyliadau realistig ac o allu derbyn yr annisgwyl. 

 

I’ch helpu i osod disgwyliadau buddiol, efallai yr hoffech wneud rhywfaint o ymchwil. Bydd casglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau yn eich helpu i ddeall gwahanol safbwyntiau a pharatoi ar gyfer gwahanol bosibiliadau. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi wneud y canlynol:

 

  • Siarad â myfyrwyr sydd yno’n barod – gall brodyr a chwiorydd, ffrindiau, a myfyrwyr mewn fforymau ar-lein i gyd roi cyngor i chi. Ond cofiwch na fydd eu profiad nhw yn union fel eich un chi, pa mor sicr bynnag y maen nhw o’u barn eu hunain. 
  • Darllen yr wybodaeth a ddarperir gan eich prifysgol – mae’n debyg y byddant yn anfon llawer o wybodaeth a chanllawiau atoch cyn i chi ddechrau yn y brifysgol. Gall darllen drwyddynt eich helpu i baratoi. 
  • Efallai y bydd gan eich undeb myfyrwyr, urdd neu gymdeithas eu gwefan eu hunain neu efallai y byddant yn anfon gwybodaeth atoch. Gall fforymau ar-lein roi cyfle i chi gasglu mwy o wybodaeth. 
  • Ymweliadau, diwrnodau agored neu sesiynau torri’r garw – mae rhai prifysgolion neu gyrsiau’n cynnal digwyddiadau personol neu ar-lein cyn i’r brifysgol ddechrau. Gall hyn roi cyfle gwirioneddol i chi ateb cwestiynau a mireinio’ch disgwyliadau. 
  • Eich tiwtoriaid – efallai y bydd rhai tiwtoriaid yn cysylltu â chi ymlaen llaw, ond os oes gennych gwestiynau cyn i’r tymor ddechrau, gall cysylltu â nhw helpu. 
     

 

 

Crëwyd yr erthygl hon gan Student Minds, yn wreiddiol ar gyfer Student Space. Gweler yr erthygl hon yn Saesneg ar eu gwefan - https://www.studentminds.org.uk/ 
 

Cefnogaeth mewn argyfwng
Graddiwch y gwasanaeth hwn
close_btn

Mae'r gwasanaeth hwn wedi cael sgôr gyfartalog o 0.0

0 adolygiad