Fy mhrofiad o gymryd meddyginiaeth gwrth-iselder

Meddyginiaeth gwrth-iselder
Llun gan Katie Phillips 

Ges i ddiagnosis o iselder a gorbryder yn Rhagfyr 2019.  Ar y pryd roeddwn i’n meddwl mai jyst iselder oedd gennyf, ond wnaethon nhw diagnosio fi gyda’r ddau. Doeddwn i ddim yn teimlo fel bo fi’n berson pryderus felly roedd hwn yn sioc i mi.  Ar y prydd roedd y stigma o gymryd meddyginiaeth wedi fy rhwystro fi rhag cael diagnosis yn gynharach. Roeddwn i’n meddwl bod gan bobl eraill e’n waeth na fi a byddai pobl yn meddwl bod gennyf i ddim byd i fod yn isel amdano.

Nes i drio popeth mae doctoriaid yn argymell.  Roeddwn i’n cael digon o gwsg, cerdded lot, mynd i’r gym cwpl o ddiwrnodau'r wythnos, neud yoga, bwyta’n iachus, cymdeithasu gyda ffrindiau. Gwnaeth dim byd helpu. Ar ôl gwneud ymarfer corff roeddwn i’n teimlo dim byd, yn fflat - dim endorphins o gwbl. Doeddwn i ddim yn joio y pethau roeddwn i fel arfer yn.

Roeddwn i’n stryglo am dros flwyddyn cyn i mi gael yr hyder i fynd i weld fy GP. Yr unig bobl nes i siarad am hyn i oedd fy ffrind gorau/’housemate’ a fy nghariad ar y pryd. Oherwydd roeddwn i’n eu gweld nhw’n aml ac roeddwn i’n mor agos atynt, roedd e’n galed i roi'r masg arno a chuddio pa mor isel roeddwn i’n teimlo.

Roeddwn i’n gorgysgu trwy’r amser oherwydd doeddwn i ddim eisiau gorfod meddwl a theimlo’r iselder.  Roeddwn i drwy’r amser yn trio cuddio pa mor isel roeddwn i’n teimlo. Ni ddaeth dim â llawenydd i mi.

Ar ôl gweld fy GP nes i deimlo fel bod pwysau wedi’i godi o’n hysgwyddau. Roedd siarad gyda hi wedi helpu fi gyfaddef i’n hunain nad oeddwn yn iawn. Wnaethon nhw gynnig meddyginiaeth gwrth-iselder neu ‘antidepressants’ i mi a nes i benderfynu eu trio oherwydd roeddwn i wedi trio popeth arall. Mi gymrodd wythnosau i fi ddechrau gweld gwahaniaeth ond yn araf bach fe wnaeth e weithio. Mae’r peth gorau y gwnes i fy iechyd meddwl ar y pryd a thrueni wnes i ddim ceisio am help yn gynharach.

Daeth covid a wnaeth fy iechyd meddwl waethygu eto.  Roedd rhaid i mi gynyddu fy nos meddyginiaeth.  Mi wnaeth hyn fy helpu a heb neud hyn sain credu byddai wedi gallu codi allan o fy ngwely. Mae fy iechyd meddwl wedi bod lan a lawr dros y blynyddoedd diwethaf ond rydw i wedi dechrau lleihau’r dos ac yn ymdopi’n dda.

Ar ôl 4 mlynedd o fod ar feddyginiaeth rydw i’n teimlo’n barod i ddod bant oddi arnyn nhw. Ond does dim cywilydd na siom pe bai raid i mi fynd nôl arnyn nhw yn y dyfodol. Mae dal gyda fi teimladau mewnol am fy niagnosis a’r cyflwr ond mae’n lot gwell na beth oedd e, ac mae siarad yn gyhoeddus amdano gyda ffrindiau a theulu yn wir wedi helpu.

Wrth i fwy o bobl siarad yn agored am gymryd meddyginiaeth mae’n lleihau’r stigma a gobeithio bydd pobl yn ceisio derbyn help yn gynharach. Rwy’n hoffi ymgyrch #postyourpill gan Dr Alex. Rwy'n siŵr bod rhai o'ch ffrindiau ar feddyginiaeth a dydych chi ddim hyd yn oed yn sylweddoli!

Peidiwch â dioddef yn dawel.  Does dim cywilydd mewn cymryd meddyginiaeth gwrth-iselder.

 

Katie x