Fy narganfyddiad ADHD

Nid tan llynedd y sylweddolais fod yna bosibilrwydd fod gennyf ADHD. Dechreuais weld mwy a mwy o TikTok's sy'n gysylltiedig ag ADHD ar fy nhudalen 'for you'. Roedd pob un roeddwn i'n ei wylio yn teimlo’n berthnasol iawn i mi. Dechreuais wneud mwy o ymchwil i symptomau ADHD mewn merched a gwawriodd arnaf ei bod yn debygol iawn bod gennyf ADHD.

Rwy’n dal i fod yn y broses hir o gael diagnosis swyddogol gan y GIG, a hyd yma rwyf wedi cael un apwyntiad gydag arbenigwr.

Wrth edrych nôl, rwy'n teimlo tristwch dwfn dros fy hun am beidio â sylweddoli a gwybod bod hwn gennyf a meddwl bod rhywbeth o'i le arnaf. Mae gen i lawer o feddyliau hunan beirniadol, gyda'r un mwyaf cyffredin yn galw fy hun yn ddiog.

Cefais ddiagnosis o iselder a phryder ychydig flynyddoedd yn ôl, ac rwy’n meddwl bod llawer o’r anhwylderau iechyd meddwl yma yn dod law yn llaw ag ADHD.

Roeddwn i'n meddwl mai dim ond nodweddion personoliaeth hynod oedd llawer o'm symptomau, ac nad oeddent yn ddilys. Arweiniodd hyn at fethu â gosod ffiniau’n llawn na chyfleu fy anghenion yn y gweithle, gyda theulu, ffrindiau, a pherthnasoedd, oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod fy mod yn 'neurodivergent' a bod gen i anghenion ychwanegol.

Wrth ddysgu mwy am y cyflwr a sut mae symptomau yn fy effeithio, mi fyddai’r addasiadau isod wedi gwella ansawdd fy mywyd yn sylweddol, megis:

 

·       Defnyddio clustffonau canslo sŵn pan fyddaf yn teimlo'n 'overstimulated' neu'n cael lle tawel i weithio ar fy mhen fy hun

·        Cael opsiynau eistedd mwy cyfforddus (rydw i'n casáu eistedd ar gadair swyddfa!)

·        Bod yn glir o ddisgwyliadau eraill ohonof

·        Cael lle ac amser ar ben fy hun i ddod â fy lefelau egni yn ôl i fyny

·        Gweithio hyblyg a hybrid

 

Mae gan bob un ohonom anghenion gwahanol, ond nid yw'r byd wedi'i sefydlu er mwyn i bobl 'neurodivergent' ffynnu. Mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Rwy'n gobeithio y bydd derbyn fy niagnosis swyddogol yn fy ngrymuso i barhau i godi ymwybyddiaeth a thrwy siarad yn agored am fy anghenion ychwanegol i y bydd yn help i eraill!

Katie x

 

Sut mae cyfryngau cymdeithasol wedi helpu Katie? 

Mae cyfryngau cymdeithasol wedi ac yn parhau i helpu Katie ar ei siwrne diagnosis - dyma ei hawgrymiadau am gyfrifon i’w dilyn:
 

Post cyf cymdeithasol Katie