Gwybodaeth Gyffredinol am Gamddefnyddio Alcohol

Logo NHS
Darperir y wybodaeth gan NHS.UK

 

Trosolwg

Mae camddefnyddio alcohol yn golygu yfed mewn ffordd sy'n niweidiol, neu fod rhywun yn ddibynnol ar alcohol. Er mwyn cadw'r risg i iechyd oherwydd alcohol yn isel, mae dynion a merched yn cael eu cynghori i beidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd. 

Mae uned o alcohol yn cyfateb i 8g neu 10ml o alcohol pur, sef tua: 

  • hanner peint o lager/cwrw/seidr cryfder arferol (ABV 3.6%)
  • mesur sengl, siot bychan (25ml) o wirod (25ml, ABV 40%) 
  • mae gwydraid bychan (125ml, ABV 12%) o win yn cynnwys tuag 1.5 uned o alcohol. 

 

Er mwyn cadw eich risg o niwed cysylltiedig ag alcohol yn isel:

  • mae dynion a merched yn cael eu cynghori i beidio ag yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd  
  • os ydych chi'n yfed cymaint ag 14 uned yr wythnos, mae'n well os ydych chi'n gwasgaru'r rhain yn gyfartal dros dri diwrnod neu fwy
  • os ydych chi'n ceisio yfed llai o alcohol, mae'n syniad da cael sawl diwrnod di-alcohol bob wythnos. 
  • os ydych chi'n feichiog neu'n ceisio beichiogi, y peth mwyaf diogel i'w wneud ydy peidio ag yfed alcohol o gwbl, er mwyn cadw'r risgiau i'ch babi mor isel â phosib
  • ystyr yfed rheolaidd ydy yfed alcohol y mwyafrif o ddiwrnodau neu wythnosau.

 

Risgiau Camddefnyddio Alcohol

Tymor Byr

Mae risgiau tymor byr camddefnyddio alcohol yn cynnwys: 

  • damweiniau ac anafiadau y mae angen eu trin mewn ysbyty, megis anaf i'r pen 
  • ymddwyn yn dreisgar a dioddef trais 
  • rhyw ddiamddiffyn a allai arwain at feichiogrwydd heb ei gynllunio neu heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) 
  • colli eiddo personol, megis waled, allweddi neu ffôn symudol 
  • gwenwyno drwy alcohol - gall hyn arwain at gyfogi, ffitiau a mynd yn anymwybodol 

Mae pobl sy'n goryfed mewn pyliau (yfed yn drwm dros gyfnod byr) yn fwy tebygol o ymddwyn yn ddiofal ac mewn mwy o berygl o fod mewn damwain. 

 

Tymor Hir

Mae camddefnyddio alcohol yn barhaus yn cynyddu eich risg o gyflyrau iechyd difrifol, gan gynnwys:

  • clefyd y galon
  • stroc
  • clefyd yr afu/iau 
  • canser yr afu/iau 
  • canser yr coluddyn 
  • canser yr geg
  • canser yr fron
  • llid y pancreas

Yn ogystal ag achosi problemau iechyd difrifol, i rai pobl gall camddefnyddio alcohol am gyfnod hir arwain at broblemau cymdeithasol, megis diweithdra, ysgariad, cam-drin domestig a digartrefedd. Os bydd rhywun yn colli rheolaeth dros eu harferion yfed a bod ganddyn nhw awydd gormodol i yfed, mae hyn yn cael ei alw'n yfed dibynnol (alcoholiaeth). Fel arfer, mae yfed dibynnol yn effeithio ar ansawdd bywyd a pherthnasoedd unigolyn, ond efallai na fydd hi'n hawdd bob amser i'r unigolyn sylweddoli neu dderbyn hyn.  Yn aml, bydd yfwyr dibynnol iawn yn gallu goddef lefelau uchel iawn o alcohol - lefelau a fyddai'n cael effaith beryglus ar rai pobl neu hyd yn oed yn eu lladd. 

Bydd yfwr dibynnol fel arfer yn cael symptomau diddyfnu corfforol a seicolegol os bydd yn yfed llai neu'n rhoi'r gorau i yfed yn sydyn. Mae'r rhain yn cynnwys: 

  • dwylo'n crynu - 'cryndod' 
  • chwysu 
  • gweld pethau sydd ddim yn wir (rhithweledigaethau) 
  • iselder
  • gorbryder
  • cael trafferth cysgu (anhunedd) 

Yn aml, bydd hyn yn arwain at 'yfed er rhyddhad' i osgoi symptomau diddyfnu ('withdrawal'). 

 

Ydw i'n yfed gormod o alcohol?

Efallai eich bod chi'n camddefnyddio alcohol: 

  • os ydych chi'n teimlo y dylech chi yfed llai
  • os ydy pobl eraill wedi bod yn beirniadu eich arferion yfed
  • os ydych chi'n teimlo'n euog neu'n ddrwg ynghylch eich arferion yfed 
  • os oes arnoch chi angen diod ben bore i dawelu eich nerfau neu i gael gwared ar ben mawr (hangover) 

 

Efallai fod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn camddefnyddio alcohol: 

  • os ydyn nhw'n yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd 
  • os ydyn nhw'n methu â chofio beth ddigwyddodd y noson flaenorol weithiau, oherwydd eu harferion yfed 
  • os nad ydyn nhw'n gwneud rhywbeth yr oedd disgwyl iddyn nhw ei wneud, oherwydd eu harferion yfed (er enghraifft, methu apwyntiad neu waith oherwydd eu bod nhw wedi meddwi neu fod ganddyn nhw ben mawr) 

 

Cael Help

Os ydych chi'n pryderu am eich arferion yfed chi neu rywun arall, byddai'n beth da ichi weld eich meddyg teulu fel cam cyntaf. 

Bydd eich meddyg teulu'n gallu trafod y gwasanaethau a'r triniaethau sydd ar gael.  

Efallai y bydd eich cymeriant alcohol yn cael ei asesu gan ddefnyddio profion, megis: 

  • Y prawf adnabod anhwylderau defnyddio alcohol - prawf sgrinio sy'n cael ei ddefnyddio'n eang, sy'n gallu helpu i bennu a oes angen ichi newid eich arferion yfed ai peidio 
  • Y prawf adnabod anhwylderau defnyddio alcohol - cymeriant - prawf symlach i weld a ydy eich yfed wedi cyrraedd lefelau peryglus 

Yn ogystal â'r GIG, ceir nifer o elusennau a grwpiau cymorth ar hyd a lled y DU sy'n darparu cymorth a chyngor i bobl sydd â phroblem camddefnyddio alcohol. 

 

Er enghraifft, efallai yr hoffech chi gysylltu â: 

  • Drinkline - llinell gymorth genedlaethol alcohol, ar 0300 123 1110 
  • Alcohol Change UK
  •  Llinell gymorth Alcoholics Anonymous ar 0800 9177 650 
  • Llinell gymorth AI-Anon Family Groups ar 0800 0086 811

 

 Trin Camddefnydd Alcohol

Mae'r ffordd o drin camddefnydd o alcohol yn dibynnu ar faint mae person yn ei yfed. 

Mae'r opsiynau o ran triniaeth yn cynnwys:

  • cwnsela - gan gynnwys grwpiau hunangymorth a therapïau siarad, megis therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)  
  • meddyginiaeth
  • dadwenwyno ('detox') - lle bydd nyrs neu feddyg yn eich cefnogi chi i roi'r gorau i yfed mewn ffordd ddiogel; gellir gwneud hyn drwy eich helpu chi i yfed llai yn raddol dros amser neu drwy roi meddyginiaeth ichi i atal symptomau diddyfnu. 

 

Meddyginiaeth 


Ceir dau brif fath o feddyginiaeth i helpu pobl i roi'r gorau i yfed.  

Mae'r math cyntaf yn helpu i atal symptomau diddyfnu ac mae'n cael ei roi mewn dosau sy'n lleihau dros gyfnod byr. Y mwyaf cyffredin o'r meddyginiaethau hyn ydy clordiasepocsid (Librium).

Mae'r ail fath yn feddyginiaeth i leihau unrhyw awydd sydd gennych chi i yfed. Y meddyginiaethau mwyaf cyffredin sy'n cael eu defnyddio ar gyfer hyn ydy acamprosad and naltrecson. 

Yn achos y ddwy feddyginiaeth, dos sefydlog fydd yn cael ei roi a byddwch chi'n eu cymryd am 6 i 12 mis fel arfer. 

 

Ffynhonnell:  NHS UK  
Mae'r uchod yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f.3.0. 
https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/ &nbsp