Mae anhwylderau bwyta’n gyflyrau salwch meddwl difrifol sy’n effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig a chefndir. Mae pobl ag anhwylderau bwyta’n defnyddio ymddygiad bwyta di-drefn i ymdopi â sefyllfaoedd neu deimladau anodd. Gall yr ymddygiad gynnwys bwyta llai o fwyd neu ormod o fwyd ar y tro, gwagio’r stumog mewn ffordd nad yw'n iach (e.e. gwneud i’w hunain chwydu, cam-ddefnyddio tabledi lacsatif, ymprydio neu or-wneud ymarfer corff), neu gyfuniad o’r mathau hyn o ymddygiad.
Rhaid cofio nad rhywbeth yn ymwneud â bwyd ei hun yw anhwylderau bwyta, ond â theimladau. Gallai’r ffordd y mae person yn trin bwyd wneud iddynt deimlo eu bod yn gallu ymdopi’n well neu fod mewn mwy o reolaeth o’u bywyd, er efallai nad ydynt yn ymwybodol o bwrpas yr ymddygiad. Nid bai’r person ei hun yw anhwylder bwyta byth ac mae pawb sydd ag anhwylder bwyta’n haeddu cefnogaeth dosturiol ddi-oed i’w helpu i wella.
Fel bod gweithwyr gofal iechyd yn gallu dewis y driniaeth iawn i’r person, mae nifer o wahanol fathau o anhwylderau bwyta y gall rhywun cael diagnosis ohonynt. Mae’n bosib i rywun symud rhwng gwahanol ddiagnoses os yw eu symptomau’n newid ac mae gwahanol anhwylderau bwyta’n gorgyffwrdd yn aml.
Mae’n gyffredin i bobl gael diagnosis o “anhwylder bwyta penodedig arall” (OSFED). Nid yw hwn yn fath llai difrifol o anhwylder bwyta, dim ond nad yw anhwylder bwyta’r person yn cyfateb yn union i’r rhestr symptomau y bydd arbenigwr yn eu gwirio i roi diagnosis o anorecsia, bwlimia neu “glwth-fwyta”.
Gall anhwylderau bwyta fod yn farwol ac achosi niwed difrifol, yn gorfforol ac emosiynol. Ond er eu bod yn salwch difrifol, mae’n bosib trin anhwylderau bwyta. Gwyddom yn Beat, o’n cyswllt dyddiol â phobl sy’n dioddef o anhwylderau bwyta, ei bod yn bosib gwella’n llwyr. Fel mathau eraill o salwch, cynta’n byd y mae rhywun ag anhwylder bwyta’n cael eu trin, cynta’n byd y maen nhw’n debygol o wella. Y peth pwysicaf yw cael eich hun, neu’r person yr ydych yn eu cefnogi, i dderbyn triniaeth cyn gynted â phosib.