Mae camddefnyddio alcohol yn golygu yfed mewn ffordd sy'n niweidiol, neu fod rhywun yn ddibynnol ar alcohol. Er mwyn cadw'r risg i iechyd oherwydd alcohol yn isel, mae dynion a merched yn cael eu cynghori i beidio ag yfed mwy nag 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.
Mae uned o alcohol yn cyfateb i 8g neu 10ml o alcohol pur, sef tua:
- mae dynion a merched yn cael eu cynghori i beidio ag yfed mwy nag 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd
- os ydych chi'n yfed cymaint ag 14 uned yr wythnos, mae'n well os ydych chi'n gwasgaru'r rhain yn gyfartal dros dri diwrnod neu fwy
- os ydych chi'n ceisio yfed llai o alcohol, mae'n syniad da cael sawl diwrnod di-alcohol bob wythnos.
- os ydych chi'n feichiog neu'n ceisio beichiogi, y peth mwyaf diogel i'w wneud ydy peidio ag yfed alcohol o gwbl, er mwyn cadw'r risgiau i'ch babi mor isel â phosib
- ystyr yfed rheolaidd neu fynych ydy yfed alcohol y mwyafrif o ddiwrnodau neu wythnosau.
Mae risgiau tymor byr camddefnyddio alcohol yn cynnwys:
Mae camddefnyddio alcohol yn barhaus yn cynyddu eich risg o gyflyrau iechyd difrifol, gan gynnwys:
Yn ogystal ag achosi problemau iechyd difrifol, i rai pobl gall camddefnyddio alcohol am gyfnod hir arwain at broblemau cymdeithasol, megis diweithdra, ysgariad, cam-drin domestig a digartrefedd. Os bydd rhywun yn colli rheolaeth dros eu harferion yfed a bod ganddyn nhw awydd gormodol i yfed, mae hyn yn cael ei alw'n yfed dibynnol (alcoholiaeth). Fel arfer, mae yfed dibynnol yn effeithio ar ansawdd bywyd a pherthnasoedd unigolyn, ond efallai na fydd hi'n hawdd bob amser i'r unigolyn sylweddoli neu dderbyn hyn. Yn aml, bydd yfwyr dibynnol iawn yn gallu goddef lefelau uchel iawn o alcohol - lefelau a fyddai'n cael effaith beryglus ar rai pobl neu hyd yn oed yn eu lladd.
Bydd yfwr dibynnol fel arfer yn cael symptomau diddyfnu corfforol a seicolegol os bydd yn yfed llai neu'n rhoi'r gorau i yfed yn sydyn. Mae'r rhain yn cynnwys:
Yn aml, bydd hyn yn arwain at 'yfed er rhyddhad' i osgoi symptomau diddyfnu.
Efallai eich bod chi'n camddefnyddio alcohol:
Os ydych chi'n pryderu am eich arferion yfed chi neu rywun arall, byddai'n beth da ichi weld eich meddyg teulu fel cam cyntaf.
Bydd eich meddyg teulu'n gallu trafod y gwasanaethau a'r triniaethau sydd ar gael.
Efallai y bydd eich cymeriant alcohol yn cael ei asesu gan ddefnyddio profion, megis:
Er enghraifft, efallai yr hoffech chi gysylltu â:
Mae'r ffordd o drin camddefnydd o alcohol yn dibynnu ar faint mae person yn ei yfed.
Mae'r opsiynau o ran triniaeth yn cynnwys:
Ceir dau brif fath o feddyginiaeth i helpu pobl i roi'r gorau i yfed.
Yn achos y ddwy feddyginiaeth, dos sefydlog fydd yn cael ei roi a byddwch chi'n eu cymryd am 6 i 12 mis fel arfer.
Ffynhonnell: NHS UK
Mae'r uchod yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f.3.0.
https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/