Camddefnyddio Alcohol

Mae yfed alcohol yn ran annatod o fywyd cymdeithasol i nifer o fyfyrwyr, ac yn cael ei gysylltu fel rhan o'r hwyl o fod yn y brifysgol.  Ond os ydych yn poeni faint o alcohol rydych yn ei yfed, y sgil effeithiau ar eich iechyd meddwl a lles neu efo patrwm o or-yfed alcohol yn rheolaidd, gall y wybodaeth isod fod o gymorth.    Yn gynyddol defnyddir y term Anhwylder Defnyddio Alcohol, oherwydd stereoteipio negyddol y term alcoholig.  Mae'n bwysig cael cyngor meddygol proffesiynol os ydych yn poeni am eich defnydd o alcohol, ac yn ystyried torri lawr neu stopio yfed yn gyfan gwbl.  Os oes batrwm o ddibyniaeth wedi bod am amser hir, mae'n bwysig derbyn cyngor a chefnogaeth ar sut i ddadwenwyno (neu 'detox') mewn modd diogel.   

 

 

Gwydrau gwin coch

Gwybodaeth gyffredinol am gamddefnyddio alcohol

Yma ceir wybodaeth gyffredinol am gamddefnyddio alcohol a phryd i gael cymorth.

Dysgu mwy
Taflen wybodaeth camddefnyddio alcohol

Taflen wybodaeth fer am alcohol

Dyma grynodeb o'r wybodaeth sydd ar y wefan gyda chysylltiadau defnyddiol at gymorth pellach.

Llawr lwytho'r daflen
Llun o Heledd sy'n cyfrannu i'r podlediad

Pennod o'n podlediad Sgwrs? sy'n trafod alcohol

Mae’r actores Heledd Roberts a’r actores, cyflwynydd ac awdur Ffion Dafis yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Sara Childs i sgwrsio am eu perthynas cymhleth nhw gydag alcohol. Mae’n sgwrs onest gan adlewyrchu ar gymdeithasu tra yn y brifysgol.

Gwrandewch ar y podlediad
Fideo ar cymdeithasu ac alcohol yn y brifysgol

Fideo am gymdeithasu ac alcohol yn y brifysgol

Mae Kayley, Alys, Cara ac Elen yn trafod rôl alcohol wrth gymdeithasu tra yn y brifysgol. Oes gormod o bwyslais ar yfed alcohol wrth gymdeithasu, neu os modd cael bywyd coleg sydd ddim yn gwbl ddibynnol ar alcohol i gwrdd â phobl newydd a chael hwyl?

Gwyliwch y fideo
Erthygl gan fyfyriwr am alcohol

Darllenwch am brofiad myfyrwraig a'i pherthynas gydag alcohol

Dyma flog gonest a graenus gan fyfyrwraig wrth iddi sôn am ei thaith o wynebu ei pherthynas gymhleth gyda alcohol. Darllenwch fwy am ei stori isod.

Darllen mwy