Ffeithiau am Anhwylder Gorbryder

Trosolwg

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth ynghylch anhwylderau gorbryder, sut maen nhw'n cael eu diagnosio, achosion posib a ffyrdd o gael triniaeth. Gall fod o help i ofalwyr, ffrindiau neu aelodau teulu rhywun sydd ag anhwylder gorbryder.

  • Gall gorbryder wneud ichi deimlo'n llawn gofid neu ofn. 
  • Gall gorbryder achosi symptomau corfforol, megis curiad calon cyflym neu chwysu. 
  • Mae teimlo'n orbryderus yn ymateb naturiol mewn rhai sefyllfaoedd. Efallai fod gennych chi anhwylder gorbryder os ydych chi'n teimlo'n orbryderus drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser. 
  • Mae'n bosib dod dros anhwylderau gorbryder. Mae triniaeth a chefnogaeth ar gael ichi. 
  • Gall eich meddyg gynnig triniaeth ichi. Bydd yr union driniaeth a gewch yn dibynnu ar eich symptomau a pha mor ddifrifol ydyn nhw. 

"Mae mynd i gysgu a chodi yn y bore yn anodd i mi. Mae gen i deimlad cyson o ofn mawr sy'n anodd ei anwybyddu. Dydy fy meddwl i byth yn diffodd. Mae'n flinedig ofnadwy. Daeth pethau fel mynd i'r gwaith a gwneud y siopa bwyd wythnosol mor anodd nes mi benderfynu siarad gyda fy meddyg teulu. Dwi'n aros i gael therapi siarad nawr." 

Stori Alison

B​eth sy'n achosi anhwylderau gorbryder?

Achosion - gorbryder

B​eth sy'n achosi anhwylderau gorbryder?

Dysgu Mwy
Beth ydi'r gwahanol fathau o anhwylderau gorbryder?

Mathau o anhwylder gorbryder

Beth ydi'r gwahanol fathau o anhwylderau gorbryder?

Dysgu Mwy
Gwybodaeth bellach defnyddiol

Triniaeth, meddyginiaeth a cysylltiadau

Gwybodaeth bellach defnyddiol

Dysgu Mwy