Cefnogaeth iechyd meddwl os ydych yn perthyn i'r gymuned LHDTC+

Friends talking

Cymorth iechyd meddwl os ydych yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws neu cwiar / cwestiynu (LHDTC+)

Mae materion a gwybodaeth sy’n ymwneud a’r gymuned LHDTC+ yn eang, ac felly yn yr adran yma rydym wedi tynnu adnoddau at ei gilydd o sawl ffynhonnell gan gynnwys y GIG, Anna Freud a Stonewall gan gadw ffocws penodol ar iechyd meddwl.  Rydym yn ceisio datblygu a gwella ein hadnoddau yn barhaus.  Os oes unrhyw fylchau mewn gwybodaeth neu os yr hoffech rannu eich profiadau, cysylltwch â ni trwy e-bostio:  myf.cymru@bangor.ac.uk.  

 

Cyflwyniad 

Gall problemau iechyd meddwl fel iselder neu hunan-niweidio effeithio ar unrhyw un ohonom, ond maent yn fwy cyffredin ymhlith pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar (LHDTC+).

Gall hyn fod yn gysylltiedig â phrofiad pobl LHDTC+ o wahaniaethu, homoffobia neu drawsffobia, bwlio, ynysu cymdeithasol, neu wrthodiad oherwydd eu rhywioldeb.  Mae gwefan Anna Freud yn adrodd bod ymchwil wedi dangos bod pobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a cwiar (LHDTC+) dros ddwy waith a hanner yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl na’r rhai sy’n nodi eu bod yn heterorywiol. Nid yw bod yn LHDTC+ yn golygu y bydd gan berson ifanc broblem iechyd meddwl - nid oes gan y mwyafrif o bobl ifanc LHDTC+, ac mae llawer yn teimlo y gallant ymdopi â bywyd dydd i ddydd. Fodd bynnag, gall uniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTC+ arwain at heriau unigryw yn eich harddegau ac fel oedolyn gan gynnwys ofnau ynghylch dod allan, pryderon ynghylch cael eich derbyn gan ffrindiau a theulu, ac effaith rhagfarn a gwahaniaethu (https://www.annafreud.org/on-my-mind/lgbtqi-mental-health/).

Mae'n bwysig cofio y gall cydnabod eich hunaniaeth LHDTC+ hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich lles. Gallai olygu bod gennych chi:

          - mwy o hyder

          - gwell perthnasoedd gyda'ch ffrindiau a'ch teulu

          - ymdeimlad o gymuned a pherthyn

          - rhyddid hunanfynegiant a hunan-dderbyn

          - mwy o wytnwch.

 

   Sut all therapi helpu? 

Efallai na fydd yn hawdd, ond cael cymorth gyda materion yr ydych yn cael trafferth delio â nhw yw un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud.

Gall siarad â therapydd sydd wedi’i hyfforddi i weithio gyda phobl LHDTC+ helpu gyda materion fel:

     - anhawster derbyn eich cyfeiriadedd rhywiol

           - ymdopi ag ymatebion pobl eraill i'ch rhywioldeb               

           - teimlo nad yw eich corff yn adlewyrchu eich gwir ryw (dysfforia rhyw)   

           - hunan-barch isel

           - hunan-niweidio

           - meddyliau hunanladdol

           - trawsnewid 

          -  iselder

          -  ymdopi â bwlio a gwahaniaethu

          - dicter, ynysu neu gael eich gwrthod gan deulu, ffrindiau neu'ch cymuned

          - ofn trais

Darllenwch am y mathau gwahanol o therapi siarad â sut y gallent helpu.

 

Pryd i gael cymorth 

Peidiwch â dioddef yn dawel. Dylech gael cymorth cyn gynted ag y teimlwch fod ei angen arnoch. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael cymorth, ni waeth pa mor fawr neu fach y gallai eich problemau ymddangos.  Gallech elwa o therapi siarad os ydych:

  • teimlo'n flinedig neu ddiffyg egni
  • teimlo'n ddagreuol
  • caewch eich hun i ffwrdd oddi wrth bobl
  • ddim eisiau gwneud pethau roeddech chi'n arfer eu mwynhau mwyach
  • defnyddio alcohol neu gyffuriau i'ch helpu i ymdopi â'ch teimladau
  • niweidio eich hun neu feddwl am hunan-niweidio
  • meddwl am hunanladdiad

 

 

Trystan Ellis-Morris podlediad Sgwrs?

Podlediad Sgwrs?

Gwrandwch ar brofiadau myfyrwyr wrth iddynt dyfu i fyny yn hoyw neu’n ddeurywiol, o homoffobia a’r ffordd ddaethant o hyd i gymuned newydd o bobol yn y brifysgol.

Gwrandwch ar y podlediad
Endaf Evans

Fideo sy'n trafod rhywioldeb a iechyd meddwl

Dyma Alys sy'n rhannu ei phrofiadau o fod yn ddeurywiol a'r cwnselydd Endaf Evans o Brifysgol Bangor sydd darparu cynghorion i fyfyrwyr os ydynt yn cwestiynau eu rhywioldeb a phwysigrwydd estyn allan am gymorth.

Gwyliwch y fideo