Pan fydd rhywun yn marw: siarad am y peth

talk

Mae rhai pobl yn gweld bod siarad am yr hyn sydd wedi digwydd, neu sut maen nhw'n teimlo, yn ddefnyddiol, er y gall fod yn anodd iawn.

Mae Hope Again yn le arall lle gallwch siarad am eich galar. I gysylltu cliciwch 'contact us' ar waelod y dudalen gartref lle ceir manylion ar y math o gefnogaeth sydd ar gael gan eu gwirfoddolwyr.  

Dyma rai syniadau ar gyfer sôn am eich profiad gan bobl ifanc eraill sy'n defnyddio'r wefan hon ...


"Mae'n well siarad a chael pethau allan o'r ffordd oherwydd os ydych chi'n mygu eich teimladau rydych chi'n teimlo hyd yn oed yn fwy diflas nag y gwnaethoch chi erioed. Cred fi. Mae'n wir, rwy'n fy arddegau fy hun ac rwyf newydd ddysgu pan fyddaf yn crio ac yn siarad am bethau y mae wir yn helpu."


"Mae pobl yn ymateb i golled mewn gwahanol ffyrdd. Siaradwch â phobl, peidiwch â gadael i'ch poen dyfu nes eich bod yn torri lawr. "

 

"Os siaradwch â rhywun am sut rydych chi'n teimlo, gall hynny helpu llawer hefyd."


"Pan fydd angen i chi siarad, peidiwch â mygu eich teimladau, gadewch eich emosiynau allan - efallai ei bod yn haws dweud na gwneud ond ymhen amser fe fydd yn haws."


"Dwi'n gwybod pa mor anodd mae'n gallu bod ar adegau. Dwi'n ei chael hi'n anodd siarad gyda fy ffrindiau - dwi ddim eisiau pobl wybod am y byddan nhw'n pitio drosof. Ond os siaradwch â'ch ffrindiau yna gallent eich helpu. Rwy'n mynd i gwnsela - mae'n helpu mewn ffordd oherwydd eich bod yn cael eich holl deimladau allan. "


"Dwi'n gwybod nad yw mygu teimladau yn helpu dim ond yn gwneud pethau'n waeth. Roeddwn i'n gweld dim ond siarad â phobl am ba fath o berson oedd e'n fy helpu i.. "


"Mae'n dda i ddal i siarad amdanyn nhw oherwydd mae'n dda gadael eich holl deimladau allan a chadw eu hysbryd yn fyw!"


"Rwy'n credu mai'r prif beth gyda phrofedigaeth yw gallu siarad â rhywun am eich colled. Yna nid yw'r boen yn aros wedi'i fygu ac yn achosi mwy o boen gan nad oes gennych unman i arllwys eich poen. Nid oes ffordd benodol i bobl alaru, mae'r hyn yr ydych yn ei wneud yn normal i chi felly peidiwch â phoeni amdano."


"Dywedais wrth diwtor yr oeddwn yn ymddiried ynddo ac yn awr rwy'n cael cwnsela, mae'n helpu llawer."


"Os ydych chi byth yn anhapus, peidiwch â'i ddal yn ôl, gadewch i bobl wybod, siaradwch â nhw, dywedwch wrthyn nhw sut rydych chi'n teimlo, rwyf hyd yn oed yn crio, peidiwch byth â gadael eich hun i lawr."


"Byddwn i'n annog pobl mewn sefyllfa debyg i siarad, efallai y bydd yn anodd ar y pryd, ond mae'n mynd yn galetach nes ymlaen ..."


"Os ydych eisiau siarad mae'r safle hwn yn dda iawn i gael cyngor. Mae pawb yma wedi bod trwy wahanol bethau, er eu bod i gyd yn eithaf tebyg."

 

Mae The Mix wedi ysgrifennu erthygl ar 'ymdrin â diwrnodau pwysig ar ôl i rywun farw ', gan roi rhywfaint o gyngor ynghylch sut y gallwch baratoi ar eu cyfer. 

Darparwyd y wybodaeth uchod gan Hope Again:  Hope Again