Ymdopi â Newid a Gorbryder

Logo Beat Eating Disorder
Darparwyd y wybodaeth isod gan Beat Eating Disorders 
 

Sut alla' i ymdopi â gorbryder ynglŷn â newid?

Mae pandemig y coronafeirws yn rhywbeth na welwyd mo’i debyg erioed o’r blaen, ac mae wedi esgor ar gymaint o newid o ran y ffordd rydym yn byw ein bywydau. Wrth i’r cyfyngiadau lacio’n raddol, efallai y bydd rhai pethau’n wahanol i’r hyn oedden nhw cyn y cyfnod clo, a gall hyn arwain at ofid a gorbryder. Mae hi’n hollol naturiol inni deimlo fel hyn; ond mae yna ffyrdd cadarnhaol o ddelio â’r sefyllfa. 

Yn aml, gwelwn fod pobl yn tueddu i ymdopi â newid mewn dwy ffordd wahanol, er y gallan nhw ddefnyddio cyfuniad o’r ddwy: 

- Ymdopi trwy ddianc: Yn aml, y demtasiwn yw ceisio dianc rhag y newid neu geisio ei osgoi. Er enghraifft, osgoi mynd i apwyntiad sy’n peri pryder ichi neu lynu at ymddygiad sy’n teimlo’n ddiogel. Er yr ymddengys mai dyma’r ffordd rwyddaf o ymdopi yn y tymor byr, gall ddwysáu eich gorbryder ynglŷn â’r sefyllfa, ac yn y pen draw bydd angen delio â’r sefyllfa beth bynnag. 

- Ymdopi trwy reoli: Mae’r ffordd hon o ymdopi yn tueddu i fod yn fwy cadarnhaol a rhagweithiol. Mae a wnelo’r dull hwn â derbyn y teimladau anodd a cheisio meddwl sut y gellir eu rheoli mewn ffordd iach – er enghraifft, trwy ofyn am gymorth neu ddefnyddio technegau ‘tynnu sylw’. Yn aml, gall technegau sy’n eich annog i gymryd yr awenau fod yn fwy buddiol. 

Mae sicrhau eich bod yn deall y newidiadau sy’n digwydd yn un ffordd o deimlo bod gennych fwy o reolaeth. Ffordd ddefnyddiol o wneud hyn yw cymryd pethau un cam ar y tro, yn enwedig ar adeg pan fo pethau mor ansicr. Mae’n amhosibl inni wybod sut y bydd pethau’n newid yn y dyfodol, felly yr unig beth y gallwn ei wneud yw gweithio gyda’r wybodaeth sydd gennym ar y pryd. Beth am nodi’r ffeithiau ar ddu a gwyn (sef y ffeithiau sy’n hysbys ar y pryd) er mwyn eich helpu i ganolbwyntio ar ‘un peth ar y tro’. 

Mae hi’n naturiol inni boeni, ond gall eich corddi eich hun ynglŷn â phethau anhysbys arwain at lawer o ofid a gorbryder, heb helpu mewn unrhyw ffordd. Beth am geisio nodi eich pryderon ar ddu a gwyn fel ffordd o’u ‘rhyddhau o’ch meddwl’.