Cychwyn yn y brifysgol

 

 

Gall paratoi ar gyfer y brifysgol greu llawer o emosiynau ac, yn ddealladwy, gall gwneud dewisiadau bywyd mor fawr fod yn anodd. Mae pwysau i basio arholiadau, dewis prifysgolion a chyrsiau, pryder am gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau, a byw oddi cartref am y tro cyntaf os ydych yn bwriadu adleoli. Cenedl fach yw Cymru, heb lawer o brifysgolion, llai fyth o drefi a dinasoedd mawr, a ganddi gymunedau clos, yn enwedig yn yr ardaloedd mwy gwledig. Felly, os ydych yn bwriadu symud o’r Gogledd i’r De neu o’r De i’r Gogledd neu’n mynd dros y ffin i rywle arall yn y DU, mae’n naturiol i deimlo’n betrusgar.

Er mwyn helpu i bontio’r cyfnod yma, mae myf.cymru wedi datblygu’r canllaw byr hwn, i ymdrin â’r pethau sylfaenol a darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i baratoi cyn i chi fynd i’r brifysgol. Gobeithio y bydd yn arf cyfeirio defnyddiol i chi ar ôl i chi ddechrau eich taith addysg uwch. Mae hybu iechyd meddwl a lles yn rhan annatod o’r ddogfen hon, gan roi ffocws ar adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cliciwch yma i gael mynediad i'r canllaw.