Dydyn ni ddim yn deall yn llwyr beth sy'n achosi anhwylderau gorbryder. Ond credir bod y ffactorau canlynol yn gallu achosi gorbryder:
Geneteg. Mae'n ymddangos bod rhai pobl yn fwy pryderus nag eraill yn enedigol. Mae'n bosib eich bod chi'n cael gorbryder drwy eich genynnau.
Profiad bywyd. Gall hyn fod yn brofiadau drwg, megis cael eich bwlio neu golli rhywun agos. Gall hefyd gynnwys newidiadau mawr mewn bywyd, megis symud tŷ, colli swydd neu feichiogrwydd.
Cyffuriau. Gall caffein mewn coffi ac alcohol wneud ichi deimlo'n orbryderus. Gall cyffuriau anghyfreithlon, sydd hefyd yn cael eu galw'n gyffuriau stryd, effeithio arnoch chi hefyd.
Amgylchiadau. Weithiau rydych chi'n gwybod beth sy'n achosi eich gorbryder. Pan fydd y broblem yn mynd, bydd eich gorbryder yn mynd hefyd.