Darparwyd y wybodaeth yn yr adran hon o'r wefan am anhwylder straen wedi trawma (PTSD) gan yr Royal College of Psychiatrists: https://www.rcpsych.ac.uk/mental-health/problems-disorders/post-traumatic-stress-disorder
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pawb sy’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu sy’n adnabod rhywun a all fod yn dioddef ohono.
Beth yw PTSD?
Cyflwr iechyd meddwl yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Gall ddigwydd ar ôl i rywun ddod i gysylltiad â digwyddiad trawmatig. Bydd nifer o bobl sy’n mynd trwy ddigwyddiad trawmatig yn teimlo emosiynau, meddyliau ac atgofion negyddol.
Ond daw’r rhan fwyaf o bobl i deimlo’n well dros amser. Pan fo’r ymatebion negyddol hyn yn gyndyn o ddiflannu, a phan fôn nhw’n ymyrryd â bywyd beunyddiol, yna efallai fod yr unigolyn hwnnw’n dioddef o PTSD.
Beth sy’n achosi PTSD?
Gall PTSD effeithio ar unrhyw un. Mae’n digwydd pan ddaw rhywun i gysylltiad gwirioneddol neu bosibl â’r canlynol:
- marwolaeth
- anaf difrifol
- trais rhywiol
Gall pobl ddod i gysylltiad â’r elfennau hyn yn un o’r ffyrdd a ganlyn:
- Yn uniongyrchol – fe ddigwyddodd iddyn nhw
- Bod yn dyst i’r digwyddiad – fe wnaethon nhw ei weld yn digwydd i rywun arall
- Trwy ddysgu amdano – fe wnaethon nhw ddarganfod ei fod wedi digwydd i rywun sy’n agos iawn atyn nhw
- Trwy ddod i gysylltiad ag ef dro ar ôl tro – maen nhw wedi dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig eu hunain dro ar ôl tro neu maen nhw wedi dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig mynych sy’n effeithio ar bobl eraill. Gwyddom hefyd y gall rhai pobl a ddaw i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig trwy gyfryngau electronig, y teledu, ffilmiau neu luniau yn y gwaith, ddioddef anawsterau iechyd meddwl.
Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig yn cynnwys:
- gweld marwolaeth dreisgar
- damweiniau difrifol, e.e. damwain car
- ymosodiad corfforol neu rywiol
- problemau iechyd difrifol neu brofiad o fod mewn gofal dwys
- profiadau cymhleth wrth roi genedigaeth
- cael gwybod eich bod yn dioddef o salwch a all beryglu eich bywyd
- rhyfel a gwrthdaro
- ymosodiadau gan derfysgwyr
- trychinebau naturiol neu drychinebau o waith dyn, e.e. tswnami neu dân
Mae hi’n bwysig cofio y gall llu o ddigwyddiadau eraill na sonnir amdanyn nhw yn y fan hon arwain at PTSD. Os na sonnir am eich profiad yn y fan hon, nid yw hynny’n golygu na ddylech geisio help a chymorth.
Pam mae digwyddiadau trawmatig yn peri cymaint o sioc?
Mae digwyddiadau trawmatig yn peri sioc inni gan na allwn wneud synnwyr ohonyn nhw. Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â’n syniad o’r hyn y dylid ei ddisgwyl yn y byd. Yn aml, gall digwyddiadau trawmatig ymddangos fel pe baen nhw wedi digwydd ‘ar hap’, heb unrhyw achos clir.
Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â’n barn ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddisgwyl yn y byd, ac o’r herwydd gall fod yn anodd inni ddeall yr ystyr sydd wrth eu gwraidd. Hefyd, mae profiadau trawmatig yn dangos inni y gall pethau drwg ddigwydd i ni a’r bobl a garwn, unrhyw adeg.
Gall hyn beri inni deimlo’n anniogel a than fygythiad, ac yn naturiol mae hyn yn frawychus. Weithiau, gall digwyddiadau trawmatig beri inni gwestiynu pwy ydym ni, a gall hyn hefyd achosi trallod.
Beth sy’n digwydd pan mae rhywun yn dioddef o PTSD?
Bydd nifer o bobl yn mynd trwy ddigwyddiadau trawmatig drwy gydol eu bywydau. Mae oddeutu traean o oedolion yn Lloegr yn dweud eu bod wedi mynd trwy un digwyddiad trawmatig fan leiaf. Ond nid yw pawb sy’n mynd trwy ddigwyddiad trawmatig yn datblygu PTSD.
Gall nifer o bobl ddioddef galar, tristwch, gorbryder, euogrwydd a dicter ar ôl profiad trawmatig. Nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod rhywun yn dioddef o PTSD. Mae pobl sy’n dioddef o PTSD yn aml yn arddangos nifer o’r symptomau canlynol. Gall y symptomau hyn ddechrau’n syth, neu efallai y byddan nhw’n dod i’r amlwg ymhen rhai wythnosau, neu fisoedd hyd yn oed.
Gyda PTSD, bydd y symptomau hyn yn amharu ar eich gweithgareddau beunyddiol a/neu’n gwneud ichi deimlo’n llawn trallod. Os byddwch yn dioddef o unrhyw un o’r symptomau hyn yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, ni fydd hynny o angenrheidrwydd yn golygu y byddwch yn datblygu PTSD.
Ailddioddef symptomau
- Atgofion – Cael atgofion annifyr, a elwir yn feddyliau ymwthiol, yn ymwneud â’r digwyddiad – atgofion sy’n eich llethu ac yn peri trallod ichi.
- Breuddwydion – Cael breuddwydion neu hunllefau llawn trallod yn ymwneud â’r digwyddiad.
- Ymatebion datgysylltiol – Teimlo neu ymddwyn fel pe bai’r digwyddiad trawmatig yn digwydd eto (ôl-fflachiau). Mewn sefyllfaoedd eithafol, efallai na fyddwch yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.
- Anawsterau corfforol neu seicolegol – Teimlo’n llawn trallod ac yn gorfforol effro (e.e. anadlu’n gyflym, curiad calon cyflym) ar ôl dod i gysylltiad â phethau sy’n eich atgoffa o’r digwyddiad mewn rhyw ffordd.
Symptomau osgoi
- Amnesia datgysylltiol – Methu cofio rhannau o’r digwyddiad trawmatig.
- Diffyg cyswllt – Teimlo ar wahân neu deimlo nad ydych yn agos mwyach at y bobl a arferai fod yn agos atoch.
- Osgoi siarad a meddwl – Dim awydd siarad neu feddwl am y digwyddiad(au) trawmatig.
- Osgoi cysylltiadau – Osgoi atgofion, meddyliau, teimladau, pethau, pobl a lleoedd sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad trawmatig. Gall hyn gynnwys osgoi gwylio’r teledu neu gyfryngau eraill sy’n sôn am y digwyddiad, yn enwedig os yw hynny’n peri trallod ichi.
Symptomau’n ymwneud â’ch hwyliau
- Credoau a disgwyliadau negyddol – Meddwl mewn ffordd negyddol amdanoch eich hun, am bobl eraill neu am y byd.
- Beio – Eich beio eich hun neu bobl eraill ynglŷn â’r digwyddiad trawmatig neu’r canlyniadau a ddeilliodd ohono.
- Emosiynau negyddol – Teimlo ofn, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd yn barhaus.
- Colli diddordeb mewn gweithgareddau – Peidio â chymryd rhan/ymddiddori mewn gweithgareddau a arferai roi pleser ichi neu weithgareddau yr oeddech yn arfer eu gwneud yn rheolaidd.
- Methu teimlo emosiynau cadarnhaol – Methu teimlo hapusrwydd, boddhad neu deimladau cariadus.
Effrogarwch a symptomau adweithedd
- Bod ar eich gwyliadwriaeth – Bod yn rhy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas, methu ymlacio.
- Dychryn yn hawdd – Gorymateb i synau neu symudiadau sy’n eich atgoffa o’r digwyddiad trawmatig.
- Anhawster canolbwyntio – Cael trafferth canolbwyntio ar dasgau yr oeddech yn gallu canolbwyntio arnyn nhw o’r blaen.
- Anhawster cysgu – Cael trafferth syrthio i gysgu ac aros ynghwsg. Ar ôl syrthio i gysgu, efallai y byddwch yn cysgu’n wael neu’n cael hunllefau.
- Piwisrwydd – Mynd trwy hyrddiau pan fyddwch yn ymddwyn mewn modd ymosodol tuag at bobl neu bethau, naill ai ar lafar neu’n gorfforol. Efallai y bydd yr hyrddiau hyn yn digwydd ar ôl i rywbeth eich atgoffa o’r digwyddiad trawmatig.
- Dihidrwydd – Gwneud pethau peryglus neu hunanddinistriol.