Anhwylderau Bwyta

Logo Beat Eating Disorder
Darparwyd y wybodaeth isod gan Beat Eating Disorders 
 

Beth yw Anhwylderau Bwyta?

Mae anhwylderau bwyta’n gyflyrau salwch meddwl difrifol sy’n effeithio ar bobl o bob oed, rhywedd, tarddiad ethnig a chefndir. Mae pobl ag anhwylderau bwyta’n defnyddio ymddygiad bwyta di-drefn i ymdopi â sefyllfaoedd neu deimladau anodd. Gall yr ymddygiad gynnwys bwyta llai o fwyd neu ormod o fwyd ar y tro, gwagio’r stumog mewn ffordd nad yw'n iach (e.e. gwneud i’w hunain chwydu, cam-ddefnyddio tabledi lacsatif, ymprydio neu or-wneud ymarfer corff), neu gyfuniad o’r mathau hyn o ymddygiad. 

Rhaid cofio nad rhywbeth yn ymwneud â bwyd ei hun yw anhwylderau bwyta, ond â theimladau. Gallai’r ffordd y mae person yn trin bwyd wneud iddynt deimlo eu bod yn gallu ymdopi’n well neu fod mewn mwy o reolaeth o’u bywyd, er efallai nad ydynt yn ymwybodol o bwrpas yr ymddygiad. Nid bai’r person ei hun yw anhwylder bwyta byth ac mae pawb sydd ag anhwylder bwyta’n haeddu cefnogaeth dosturiol ddi-oed i’w helpu i wella.  
Fel bod gweithwyr gofal iechyd yn gallu dewis y driniaeth iawn i’r person, mae nifer o wahanol fathau o anhwylderau bwyta y gall rhywun cael diagnosis ohonynt. Mae’n bosib i rywun symud rhwng gwahanol ddiagnoses os yw eu symptomau’n newid ac mae gwahanol anhwylderau bwyta’n gorgyffwrdd yn aml. 

Mae’n gyffredin i bobl gael diagnosis o “anhwylder bwyta penodedig arall” (OSFED). Nid yw hwn yn fath llai difrifol o anhwylder bwyta, dim ond nad yw anhwylder bwyta’r person yn cyfateb yn union i’r rhestr symptomau y bydd arbenigwr yn eu gwirio i roi diagnosis o anorecsia, bwlimia neu “glwth-fwyta”. 

Gall anhwylderau bwyta fod yn farwol ac achosi niwed difrifol, yn gorfforol ac emosiynol. Ond er eu bod yn salwch difrifol, mae’n bosib trin anhwylderau bwyta. Gwyddom yn Beat, o’n cyswllt dyddiol â phobl sy’n dioddef o anhwylderau bwyta, ei bod yn bosib gwella’n llwyr. Fel mathau eraill o salwch, cynta’n byd y mae rhywun ag anhwylder bwyta’n cael eu trin, cynta’n byd y maen nhw’n debygol o wella. Y peth pwysicaf yw cael eich hun, neu’r person yr ydych yn eu cefnogi, i dderbyn triniaeth cyn gynted â phosib. 

 

anorecsia

Anorecsia Nerfosa

Mae anorecsia (neu anorecsia nerfosa) yn salwch meddwl difrifol lle mae pobl â phwysau isel oherwydd eu bod yn cyfyngu ar faint maen nhw’n ei fwyta a’i yfed..

Dysgu Mwy
glwth-fwyta

Anhwylder Glwth-fwyta

Mae anhwylder ‘glwth-fwyta’ (Binge Eating Disorder) yn salwch meddwl difrifol pan fydd pobl yn bwyta gormodedd...

Dysgu Mwy
bwlimia

Bwlimia Nerfosa

Mae bwlimia (neu bwlimia nerfosa) yn salwch meddwl difrifol. Gall effeithio ar unrhyw un o unrhyw oedran, rhyw, ethnigrwydd neu gefndir.

Dysgu Mwy
Triniaeth

Cymorth a thriniaeth ar gyfer anhwylder bwyta

Mae’n bosib trin anhwylderau bwyta. Fel arfer mae’n anodd iawn i rai ag anhwylder bwyta wella ar ben eu hunain felly mae’n bwysig i chi neu’r person sy’n dioddef gael gafael ar gymorth a chefnogaeth broffesiynol cyn gynted â phosib.

Dysgu mwy
glossary

Adferiad

Mae gwella neu ‘adferiad’ o anhwylder bwyta’n wahanol i bob unigolyn sy’n dioddef.

Dysgu mwy
tips

Mathau eraill o anhwylderau bwyta

Yn yr adran yma rhoddir mwy o fanylion am anhwylderau bwyta eraill:

Dysgu mwy
Taflen gwybodaeth anhwylderau bwyta

Taflen Wybodaeth

Angen trosolwg cyflym o'r cyflwr neu rannu gwybodaeth gyda rhywun arall? Mae modd llawr lwytho taflen fer mae myf.cymru wedi ei greu ar Anhwylderau Bwyta

Llawr lwytho'r daflen
Cwnselydd yn trafod anhwylderau bwyta

Stori Ffion a sut wnaeth gorbryder effeithio ar ei pherthynas gyda bwyd

Dyma Endaf a Ffion yn trafod beth all effeithio perthynas unigolyn a bwyd, a phwysigrwydd cael y wybodaeth gywir a chefnogaeth arbenigol.

Gwyliwch y fideo