Sut i edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn y Brifysgol gan Paid Ymddiheuro

Fel rhywun sydd wedi bod yn astudio yn y brifysgol am 5 mlynedd, a hynny mewn 2 brifysgol wahanol, mae nifer o bethau dwi isio mynd nôl a dweud wrth fy hun ar fy niwrnod cyntaf o brifysgol yn 18. Dyma ychydig o bethau sydd wedi helpu fi edrych ar ôl fy iechyd meddwl dros y blynyddoedd wrth astudio meddygaeth a phethau dwi’n difaru ddim sylweddoli yn gynharach.
Os hoffech chi wrando ar fwy o tips gennyf i ag Elin Bartlett, ewch I'r hwb fideos ar wefan myf.cymru neu Paid Ymddiheuro ar unrhyw blatfform ffrydio i glywed ni’n siarad am sut i edrych ar ôl eich hunan yn y brifysgol.
Ffrindiau wneith cario chi drwy‘r brifysgol
Yn amlwg mae pasio arholiadau yn bwysig er mwyn aros yn y brifysgol, ond dwi’n credu bod ffrindiau yn bwysicach…
Yn anffodus, tydi bywyd ddim yn stopio pan da chi’ n symud i ffwrdd o adref. Mae’n bwysig blaenoriaethu creu ffrindiau a system cymorth newydd.
Paid â bod ofn gofyn i wneud pethau gyda phobl eraill. Mae pawb yn yr un cwch ac yn chwilio am ffrindiau newydd hefyd! Y gwaethaf gellir rhywun ddweud yw “na”. Mae gwneud tasgau bob dydd efo’ch gilydd megis ymarfer corff, siopa bwyd, a chwcio yn ffordd dda o fagu perthynas os yw amser yn brin.
Gwna'r ymdrech i fod yno i dy ffrindiau yn yr un ffordd ag y byddet ti'n gobeithio iddyn nhw fod yno i ti. Dathla eu llwyddiannau, cofia dyddiadau pwysig, addurna'r tŷ ar gyfer eu penblwyddi, blaenoriaetha treulio amser gyda nhw, a buddsodda yn y berthynas.
Ymuno gyda chymdeithas
Ymuno â’r gymdeithas ddawnsio oedd y penderfyniad gorau wnes i yn y brifysgol. Roedd ymarferion dawnsio yn cymryd y rhan fwyaf o’m hamser rhydd, ac o ganlyniad cefais gyfle i greu ffrindiau oedd â diddordebau tebyg.
Nid yn unig hynny, ond roedd y gymdeithas ddawnsio yn fy ngalluogi i barhau â’r diddordeb oedd mor bwysig i mi wrth dyfu i fyny. Roedd hefyd yn gyfle i wneud pethau fel mynd i socials a mynd ar wyliau gyda’r tîm.
Roedd y brofiad o gystadlu trwy ddawnsio gyda’r brifysgol yn wych, a dwi wedi creu gymaint o ffrindiau oes trwy’r gymdeithasau.
Defnyddio’r cymorth sydd ar gael.
Mae Elin a finnau yn trafod lot am hyn yn ein podlediad ond mae yna gymaint o gymorth ar gael i chi drwy’r brifysgol felly plîs peidiwch ag anghofio hyn.
Rwyf wedi bod yn rili ffodus i dderbyn therapi am ddim trwy’r brifysgol trwy ychydig o ffynonellau gwahanol ond roedd hyn mond ar ôl i mi ofyn am help.
Hyd yn oed os nad yw therapi yn apelio i chi - mae sicrhau bod rhywun yn y brifysgol yn gwybod am be dachi’n stryglo efo mor bwysig. Mae’n debygol y bydd modd iddyn nhw eich cymhorthi mewn rhyw ffordd.
Yn bwysicach byth, plîs cofrestrwch gyda GP yn eich prifysgol! Ag ewch atyn nhw os oes unrhyw broblemau iechyd.
Ffeindiwch beth sydd yn gweithio i chi
Mae pawb yn wahanol ac felly mae beth sydd angen ar unigolyn er mwyn cadw’n iach yn feddyliol am fod yn wahanol i bawb.
Yn bersonol, tydi yfed alcohol yn reolaidd ddim yn apelio i mi, hynny yn gorfforol ac yn feddyliol. Ond, mi rydw i’n mwynhau noson allan gyda fy ffrindiau pob hyn a hyn. Dwi’n gwybod dio ddim yn rhywbeth allai gwneud yn aml, ond mae’n rhywbeth dwi wirioneddol yn mwynhau yn achlysurol. Felly, yn lle bod yn llym efo fi’n hun o gwmpas alcohol, dwi’n yfed alcohol pryd dwi gyda awydd gwneud ond yn mynd ar rai nosweithiau allan yn sobor. Dwi hefyd yn sicrhau cymdeithasu gyda ffrindiau tu allan i nosweithiau allan.
Dwi hefyd yn berson sydd angen ymarfer corff yn gyson er mwyn aros yn iach yn feddyliol. Felly, hyd yn oed yn ystod cyfnod arholiadau, mi fyddai yn ei flaenoriaethu. Dwi hefyd yn ceisio cyfuno ymarfer corff gyda gweld ffrindiau - dwi mor ffodus fy mod wedi gwneud ffrindiau gyda blaenoriaethau tebyg i mi ac felly rydym yn aml yn mynd i redeg gyda’n gilydd.
Dwi hefyd yn gwybod pa mor bwysig ydi bwyta 3 pryd o fwyd y dydd (o leiaf) a digon o gwsg. Dwi’n falch o ddweud fy mod i erioed, yn fy 5 mlynedd o ysgol feddygol, byth wedi tynnu ”all nighter” ac er fy mod ddim o hyd wedi bwyta'r bwyd mwyaf iachus neu ffansi, dwi o hyd yn gwneud yr amser i fwyta rhywbeth.
I glymu hyn at bwynt rhif 1, mae’r bobl rydych yn treulio amser neu'n cyd-fyw gydag yn cael dylanwad mawr ar eich arferion! Dewiswch yn ddoeth.
Gwrandewch i’r podlediad am fwy o dips!
Gan Celyn o’r podlediad Paid Ymddiheuro