Ymdopi â cholli ffrindiau yn y brifysgol

Mae’r brifysgol yn adeg ble rydym yn newid cymaint fel pobl ac felly mae’n gwneud synnwyr bod ein perthnasoedd yn newid yn ogystal â hynny. I nifer o fyfyrwyr, symud i’r brifysgol yw’r tro cyntaf rydym yn symud o adref ac yn dysgu sut i fyw ar ben ein hunain. Rydym yn datblygu cymaint fel pobl wrth i ni gychwyn ‘adulting’, y term mae nifer yn ei ddefnyddio. Ond beth dydi pobl ddim yn ein rhybuddio ni amdan yw’r ffaith rydym yn tueddu ‘colli’ neu bellhau o ffrindiau oherwydd hyn. Efallai y bydd pobl yn eich rhybuddio y byddech yn newid a bydd eich perthnasoedd yn newid ond mae’n debyg rydech chi’n meddwl eich bod eich ffrindiau chi yn mynd i newid a thyfu yn debyg i chi. Er all hwn fod yn wir i nifer, dydy hi ddim wastad yr achos sy’n gallu bod yn rhywbeth anodd iawn i ni, yn enwedig os nad ydym wedi profi'r golled hon o’r blaen.
O ganlyniad, bwriad yr erthygl hon yw trafod y rhesymau pam mae hyn yn digwydd a beth all y gwersi hyn ein dysgu. Byddaf hefyd yn rhannu fy mhrofiad personol gan ddangos y pethau roedd yn fy helpu i er mwyn ymdopi gyda’r teimladau sy’n dod o ganlyniad i golli ffrindiau.
Pam mae colli ffrindiau neu ddrifftio yn digwydd
Pobl ar lwybrau gwahanol: Mae pobl yn byw bywydau gwahanol, er enghraifft efallai rwyt ti’n teimlo fel nad oes llawer mewn cyffredin rhagor oherwydd rydych yn byw bywydau hollol wahanol. Efallai mae’r drifft yn digwydd oherwydd rwyt ti wedi mynd i’r brifysgol ac mae eraill heb, sy’n gwneud i ti deimlo fel rwyt ti'r unig sy’n newid. Dydy hynny ddim wastad yn rhywbeth gwael oherwydd mae’n bosib i chi fyw bywydau gwahanol heb golli’r cysylltiad ond mae’n dibynnu ar y bobl.
Diffyg ymdrech: Mae hyn yn arwain at sut mae rhai pobl yn well nag eraill gydag ymdrech. Os mae yna bellter ffisegol, efallai mai rhai yn wael yn tecstio, a ffonio ac felly mae hynny’n gallu effeithio’r perthynas, yn enwedig os wyt ti wedi dod i’r arfer siarad trwy’r amser yn ystod ysgol.
Bod yn brysur gyda’r bywyd newydd mae’r ddau ohonoch yn creu: Mae setlo i mewn i arfer yn y brifysgol yn cymryd llwyth o egni ac felly’n gwneud i ni flino. Efallai does dim yr un fath o egni i roi mewn i berthnasoedd oherwydd mae cymaint yn mynd ymlaen yn ein bywydau o ddydd i ddydd, mae wedyn yn anoddach gyda’r ffrindiau nad ydym yn gweld o ddydd i ddydd oherwydd mae yna ffrindiau newydd nawr rydych yn gweld yn fwy aml ac felly nhw yw’r rhai rydych efallai’n dod yn fwy agos atyn nhw sy’n hollol normal.
Sut mae’n gallu teimlo a sut i reoli’r teimladau hyn
Mae’n debyg y byddet yn teimlo’n drist, byddet ti wedi drysu am y peth ac efallai yn teimlo euogrwydd neu gywilydd yn dibynnu ar os wyt ti’n tynnu i ffwrdd neu nhw yw’r rhai sy’n tynnu i ffwrdd. Mae’n hollol gyffredin hefyd ein bod ni efallai yn teimlo fel rydyn ni wedi methu wrth golli ffrindiau neu fod yna rywbeth yn bod gyda ni ein hunain.
Mae’n bwysig i ti gydnabod y teimladau hyn a gad dy hun i deimlo’r teimladau sy’n dod lan ond paid â gadael i'r teimladau diffinio ti neu gymryd le yn dy feddwl am rhy hir oherwydd mae hyn yn broses hollol naturiol mewn bywyd ac mae’n digwydd i bawb.
Ar ochr bositif, mae’n dangos dy fod ti’n tyfu ac yn datblygu fel person ac felly mae’n hollol normal creu ffrindiau newydd. O ganlyniad, bydd rhai sydd ddim ar yr un trywydd ddim yn parhau ond weithiau dyma’r peth gorau all ddigwydd, er na fydd yn teimlo fel hi. Mae newid persbectif yn bwysig yma oherwydd bydd well gen ti golli ffrindiau sydd efallai ddim yn cyd-fynd gyda dy werthoedd rhagor er mwyn croesawu’r bobl sydd yn cyd-fynd gyda dy ffordd o fyw.
Mae’n bosib hefyd bod chi’n drifftio am ychydig ond wedyn yn hwyrach ymlaen mewn bywyd byddech chi’n ail-gysylltu eto ac felly dydy pethau ddim yn ddu a gwyn. Ond cofia, os mae pobl yn gadael dy fywyd, mae eraill yn cyrraedd ac fel arfer, maen nhw’n efallai fwy addas i ti ar y pryd hynny.
Fy mhrofiad personol
I mi, mae ffrindiau yn rhan graidd o fy mywyd a gall colli ffrindiau brifo yn fwy na thorri lan efo partner. Yn dweud hynny, yn fy mhrofiad i, os ydw i wedi colli ffrind, bron syth ar ôl dwi’n cwrdd â ffrindiau sydd ar yr un trywydd ac felly mae yna wastad rheswm i’r pethau hyn. Dwi’n lwcus i ddweud fy mod i dal yn ffrindiau gyda phobl roeddwn i’n adnabod ers i mi fod yn 3 mlwydd oed ond y rheswm am hynny yw oherwydd maen nhw wedi tyfu a datblygu yn yr un ffordd â fi er ein bod wedi symud i ffwrdd i wledydd eraill. Mae hyn wedi dangos i mi fod yna bobl sydd yna am dymor a rhai am byth a bydd y bobl gywir yn aros. Dydy hynny ddim yn gwneud y teimladau’n haws ond weithiau mae newid persbectif yn gallu helpu ti ddeall pam bod hyn yn digwydd a’r ffaith ei fod yn rhan o fywyd. Mae cael ffydd bod yna bobl mas yna hefyd yn help enfawr.
I mi, roedd colli ffrindiau yn gyffredin iawn pan symudais wlad ar gyfer fy mlwyddyn tramor. I ddechrau roedd hi’n anodd iawn ond wrth i mi sefydlu bywyd newydd tramor, rwy’n bendant yn meddwl roedd e'n y peth gorau oedd yn gallu digwydd i mi oherwydd roeddwn i wedi cwrdd â phobl o gwmpas y byd i gyd ac roedd fy myd wedi agor lan mewn ffyrdd roeddwn i byth yn gallu dychmygu. Ac yna wrth i mi symud adref ar gyfer fy mlwyddyn olaf, roedd y ffrindiau da yna ac roedd e fel roedd dim byd wedi newid. Y ffrindiau eraill, doedd dim byd yn gyffredin gyda nhw rhagor ac mae hynny’n hollol iawn. Fel y dwedais hefyd, roeddwn i wedi creu hyd yn oed fwy o ffrindiau ac felly roedd hynny’n dangos i mi fod weithiau rhaid gadael i dy hun teimlo’r teimladau hyn ond bydd e’n y peth gorau yn y pen draw.
Crynhoi
Mae’n bwysig gwybod dyma beth hollol naturiol ac mae’n rhan o fywyd. Dydy e ddim yn haws ar y dechrau ond bydd yna gyfleoedd i wneud ffrindiau sy’n fwy addas i ti. Mae yna wastad rheswm i’r pethau hyn ac felly cadw’r ffydd bydd pethau yn gwella a byddet ti ddim yn teimlo’r tristwch hwn am byth. Fel dwedais, mae’n digwydd i bawb ac felly mae’n bwysig i ddim cymryd hwn yn bersonol.
Gan Carys Davies,
Myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth