Wnes i ddim cael y canlyniadau Safon Uwch oedd eu hangen arnaf

Gall diwrnod canlyniadau fod yn anodd os na chawsoch y canlyniadau yr oeddech eu heisiau neu eu hangen. Er y gall pethau deimlo'n anodd ar hyn o bryd, nid yw hynny'n golygu y byddwch yn teimlo fel hyn am byth.
Gyda'r camau cywir gallwch barhau i greu bywyd hapus a boddhaus i chi'ch hun – dyna yw pwynt addysg, wedi'r cyfan. Er y gallai'r cam nesaf ar y daith fod yn wahanol i'r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, nid yw hynny'n golygu na fydd yn hwyl, yn llawn boddhad, ac yn iawn i chi.
Efallai y bydd y syniadau isod yn eich helpu i ddechrau symud ymlaen a dechrau creu'r bywyd hwnnw.
Derbyn sut rydych chi'n teimlo
Mae ein hymateb cyntaf i unrhyw gam yn ôl fel arfer yn emosiynol. Mae'n arferol teimlo'n boenus, yn flin, yn siomedig, wedi'ch llethu, yn fud neu'n gyfuniad o lawer o emosiynau.
Ceisiwch beidio â gosod disgwyliadau annefnyddiol i chi'ch hun – fel y syniad y dylech allu rheoli hyn heb gynhyrfu. Emosiynau yw'r hyn sy'n ein gwneud ni'n fodau dynol. Rhowch amser i chi'ch hun gydnabod a derbyn eich teimladau.
Anadlu
Gall fod o help meddwl sut ydych chi’n gorfforol ac yn emosiynol a chymryd rhai camau i'ch helpu i brosesu'r teimladau a’ch tawelu. Gall ein hymarfer anadlu 7/11 eich helpu i deimlo'n llai emosiynol a meddwl ychydig yn gliriach.
Meddwl am yr hyn rydych chi wir ei eisiau
Os nad ydych wedi cyrraedd lle yr oeddech eisiau ei gyrraedd, yn y brifysgol o'ch dewis, ceisiwch gymryd cam yn ôl. Meddyliwch pam yr oeddech am fynd i'r sefydliad hwnnw ac astudio'r cwrs hwnnw. Beth am y lle a'r rhaglen a'ch denodd? Gallai hyn gynnig cyfle i chi ailfeddwl a dewis rhywbeth rydych chi eisiau ei wneud hyd yn oed yn fwy.
Ar y llaw arall, efallai eich bod wedi bod eisiau mynd i’r lle hwnnw am resymau wedi'u hysgogi'n gynhenid – oherwydd byddech wedi gweld y cwrs yn gyffrous, yn llawn boddhad neu'n ddiddorol.
Os felly, meddyliwch am beth o ran y cwrs penodol hwnnw oedd yn achosi’r teimladau hyn. Wedyn gallwch weld a oes cyrsiau eraill ar gael sy'n bodloni'r un cymhellion, neu ystyried a yw'n werth aros blwyddyn i fanteisio ar y cyfle hwn.
Gwneud penderfyniadau cadarnhaol
Gall fod yn anodd cael gwared ar eich disgwyliadau, ac o dan yr amgylchiadau hyn, gall dewisiadau eraill deimlo fel cyfaddawdu. Mae hyn yn arferol. Ond bydd yn eich helpu, wrth i chi symud ymlaen, os gallwch wneud penderfyniadau cadarnhaol, gan ddewis pethau rydych chi eu heisiau mewn gwirionedd a gallwch deimlo'n gadarnhaol am y manteision maen nhw'n eu cynnig i chi a chanolbwyntio arnynt.
Cofiwch, hyd yn oed pe baech wedi cael eich dewis cyntaf, ni fyddai bywyd yn y brifysgol wedi bod yn berffaith. Nid yw perffaith yn bodoli yn y byd go iawn ac mae bywyd bob myfyriwr i fyny ac i lawr. Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau cadarnhaol sydd o'ch blaen ac ymrwymo i wneud i ba bynnag benderfyniad a wnewch weithio.
Gwneud rhywfaint o ymchwil
Mae'r newid mewn graddau yn golygu bod gennych rywfaint o amser i wneud eich penderfyniadau.Gallai gwneud ymchwil gynnwys:
- Siarad ag unrhyw brifysgol rydych chi'n ei hystyried
- siarad â thîm y rhaglen
- edrych ar fforymau myfyrwyr fel The Student Room.
Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i chi siarad â llinell gymorth Clirio UCAS am gyngor.
Cydnabod eich rhyddid
Cofiwch fod gennych ryddid i wneud dewis sy'n iawn i chi.
Crëwyd yr erthygl hon gan Student Minds, yn wreiddiol ar gyfer Student Space. Gweler yr erthygl hon yn Saesneg ar eu gwefan - https://www.studentminds.org.uk/