Mynd ati’n strwythuredig i wneud ffrindiau

male messaging on phone

Gall gwneud ffrindiau newydd a theimlo’n rhan o gymuned eich prifysgol eich helpu i gael profiad prifysgol da. I lawer o fyfyrwyr, mae cwrdd â ffrindiau newydd yn ffocws mawr ar ddechrau’r brifysgol.
 

Mae’n iawn os nad ydych chi’n gwneud ffrindiau ar unwaith
 

Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch yn dod o hyd i ffrindiau gwych yn eistedd nesaf atoch chi yn y dosbarth, yn eich fflat neu ar y bws yn mynd i’r brifysgol. Ond allwn ni ddim cymryd yn ganiataol na disgwyl mai fel hyn y bydd pethau, a bydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr wneud ychydig mwy o ymdrech.


Cofiwch, mae pob myfyriwr newydd yn cael yr un profiad ac mae hyn yn golygu bod pob myfyriwr yn ceisio gwneud yr un peth â chi. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr wrth eu bodd yn siarad â rhywun newydd a chael y cyfle i fynd i ddigwyddiad cymdeithasol newydd. Bydd rhywun yn eich cymuned myfyrwyr a fydd yn gwneud ffrind gwych i chi. Trwy gynllunio, byddwch chi’n rhoi cyfle i chi’ch hun ddod o hyd iddyn nhw, yn hytrach na’i adael i siawns.


Gall mabwysiadu dull o gynllunio a strwythuro eich helpu i deimlo bod gennych chi reolaeth dros y broses o gwrdd â phobl newydd – a thrwy gysylltu ag eraill byddwch chi hefyd yn eu helpu nhw, drwy roi mwy o gyfleoedd iddyn nhw ddod o hyd i ffrindiau.


Ble allech chi gwrdd â phobl beth bynnag?


Yn gyntaf, efallai y byddwch chi am feddwl am y lleoedd hynny lle byddwch chi’n mynd iddyn nhw beth bynnag – y dosbarth, ardaloedd cyffredin, llety myfyrwyr.


Meddyliwch am y cyfleoedd y gall y rhain eu cynnig.


Pan fyddwn ni’n symud i amgylchedd newydd, fel prifysgol, ysgol neu weithle, mae llawer o’n cymdeithasu cychwynnol yn tueddu i ddigwydd ar adegau rhwng digwyddiadau, fel cyn neu ar ôl cyfarfod neu ddosbarth. Gallwch chi ddefnyddio’r
cyfleoedd hyn i ddod i adnabod y bobl yn well – trwy awgrymu eich bod chi a’ch cyd- fyfyrwyr yn cael coffi ar ôl dosbarth neu i sefydlu grwpiau astudio.

Ond wrth gwrs, nid yw’r cyfleoedd hyn bob amser yn troi’n fwy o gyswllt cymdeithasol, oni bai bod rhywun yn gwneud i hynny ddigwydd. Un o’r pethau mwyaf defnyddiol i gynllunio ar ei gyfer yw sut y gallech chi gymryd sgyrsiau cychwynnol ac adeiladu arnynt. Er enghraifft, os ydych chi’n cael sgwrs yn y dosbarth fel rhan o ymarfer, a allech chi ddefnyddio hon i awgrymu cyfarfod y tu allan i’r dosbarth? Wrth i chi adael y dosbarth, a allech chi ofyn a oes unrhyw un arall eisiau cael diod neu ginio gyda’ch gilydd?


Pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i wneud ffrindiau?


Ond fel y trafodwyd uchod, mae’n ddoeth peidio â dibynnu ar y mannau hynny’n unig. Bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn darparu ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol, yn enwedig ar ddechrau’r flwyddyn, y gallwch chi eu gwneud yn rhan
o’ch cynllun. Ewch i wefannau eich prifysgol a’r undeb myfyrwyr, Urdd neu Gymdeithas ac edrychwch am yr holl gyfleoedd sydd ar gael i chi. Gallai’r rhain gynnwys –


· Ymuno â chymdeithasau a chlybiau
· Efallai bydd adrannau gwahanol yn cynnal digwyddiadau i gwrdd â phobl newydd, gan gynnwys undeb y myfyrwyr, Caplaniaeth, neuaddau a’ch Cyfadran, Coleg neu Adran
· Cyfleoedd gwirfoddoli
· Fforymau ar-lein sy’n cael eu rhedeg gan yr undeb neu’ch cwrs
· Mae rhai prifysgolion wedi creu cyfleoedd cymdeithasol ar-lein i fyfyrwyr ymgysylltu â nhw cyn dechrau’r flwyddyn academaidd
 

Rhowch eich cynllun ar waith


Cymerwch eich amser i roi eich syniadau ar waith. Does dim rhaid i chi wneud popeth ar unwaith. Dewiswch ychydig bethau i roi cynnig arnyn nhw’n gyntaf ac yna adeiladu oddi yno. Ceisiwch gofio mai proses yw hon. Os nad ydych chi’n cwrdd ag unrhyw un yr ydych yn ei hoffi ar y cynigion cyntaf, nid yw hynny’n golygu na fyddwch chi’n gwneud ffrindiau. Nid yw hynny ond yn golygu nad ydych chi wedi dod o hyd iddyn nhw eto. Daliwch ati i adeiladu a rhoi eich cynllun ar waith a defnyddiwch y cymorth yn eich prifysgol i’ch helpu i gyrraedd y nod.

 


Crëwyd yr erthygl hon gan Student Minds, yn wreiddiol ar gyfer Student Space. Gweler yr erthygl hon yn Saesneg ar eu gwefan - https://www.studentminds.org.uk/