Rydym ni gyd yn profi hwyliau da a drwg wrth i ni ddelio gydag 'yps a downs' bywyd, ac fel arfer maent yn pasio o fewn ychydig oriau neu ddyddiau. I unigolion sydd gydag anhwylderau personoliaeth megis anhwylder deubegwn neu 'bipolar disorder', mae'r newidiadau mewn tymer yn eithafol ac yn gallu parhau am wythnosau neu fisoedd. Isod ceir gwybodaeth bellach am y cyflwr a gwrandewch ar ein podlediad Sgwrs? i le mae dwy yn trafod yn onest eu profiadau dydd i ddydd o fyw gydag anhwylderau personoliaeth.